Llyn Bodgynydd
Llyn yng Nghoedwig Gwydyr yn sir Conwy yw Llyn Bodgynydd. Ar lafar yn lleol cyfeirir ato fel "Llyn Bod Mawr"; mae llyn arall, gryn dipyn yn llai, gerllaw a elwir yn "Bod Bach". Saif y llyn 822 troedfedd uwch lefel y môr, ac mae ei arwynebedd yn 14 acer. Gellir cyrraedd ato ar hyd y ffordd gul sy'n arwain o'r Ty Hyll i'r gorllewin o bentref Betws y Coed i gyfeiriad Llyn Geirionydd.
Math | cronfa ddŵr, llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Llynnau Bodgynydd |
Sir | Capel Curig, Trefriw |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1167°N 3.8528°W |
Rheolir gan | Clwb Pysgota Llanrwst |
Adeiladwyd argae i ymestyn y llyn er mwyn cyflenwi dŵr i fwynglawdd Pandora gerllaw; ac ar un adeg roedd argae ar lyn Bod Bach hefyd.
Gerllaw'r llyn mae Gwarchodfa Natur Cors Bodgynydd, sy'n un o'r lleoedd gorau yng ngogledd Cymru i weld neu glywed y Troellwr Mawr yn yr haf.
Ceir brithyll yma, a rheolir y pysgota gan Glwb Pysgota Llanrwst.
Llyfryddiaeth
golygu- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)