Llyn Cwm Ffynnon
llyn, Beddgelert, Gwynedd, Cymru
Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Cwm Ffynnon. Saif ar lethrau'r Glyder Fawr a'r Glyder Fach, uwchben Pen y Pass ar y briffordd A4086 a Phen y Gwryd. Mae'r llyn, sydd ag arwynebedd o 20 acer, yn agos iawn ar y ffin a sir Conwy, ac mae rhan o Nant y Gwryd neu Nantygwryd, sy'n llifo o'r llyn yn ffurfio'r ffin rhwng y ddwy sir. Wedi llifo ar hyd Dyffryn Mymbyr a thrwy Llynnau Mymbyr, mae Nant Gwryd yn ymuno ag Afon Llugwy.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.086°N 4.019°W |