Llyn Gafr
Llyn bychan yn ne Gwynedd yw Llyn Gafr. Fe'i lleolir i'r gogledd o gopa Cadair Idris tua 3 milltir i'r de o dref Dolgellau.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.7097°N 3.91066°W |
Saif y llyn 1,600 troedfedd[1] i fyny ar lethrau gogleddol Cadair Idris tua hanner milltir i'r gogledd o Llyn y Gadair. Mae "Llwybr y Llwynog" neu "Llwybr y Cadno" (y Fox's Path), y llwybr mwayf poblogaidd i ddringo i gopa Cadair Idris, yn mynd heibio'n agos i lan y llyn.[2]
Mae ffrwd yn llifo o'r llyn i lifo i Afon Mawddach yn is i lawr yn Abergwynant.[2]
Enw
golyguCeir sawl ffurf ar enw'r llyn hwn. Ar y map Arolwg Ordnans ceir "Llyn-y-Gafr"[2] ond gan fod gafr yn air benywaidd byddai disgwyl cael ffurf fel "Llyn yr Afr" yn hytrach na "Llyn y Gafr". Yn Atlas Meirionnydd ceir y ffurf "Llyn Gafr".[3] "Llyn Gafr" yw'r ffurf a geir gan Ioan Bowen Rees yn ei gyfrol Dringo Mynyddoedd Cymru hefyd.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931), tud. 131.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.
- ↑ Geraint Bowen (gol.), Atlas Meirionnydd (Dolgellau, 1975).
- ↑ Ioan Bowen Rees, Dringo Mynyddoedd Cymru (Llyfrau'r Dryw, 1965).