Llyn Glan Gors

llyn, Coedwig Gwydr, Eryri, Cymru
(Ailgyfeiriad o Llyn Glangors)

Llyn bychan yng nghanol Coedwig Gwydyr yn Eryri yw Llyn Glan Gors. Mae'n gorwedd mewn pant yn y bryniau tua 2.5 milltir i'r gorllewin o Lanrwst yn Sir Conwy. Maint: 15 acer.

Llyn Glan Gors
Mathcronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1267°N 3.8356°W Edit this on Wikidata
Map

Does dim ffrydiau yn llifo o'r llyn ac mae'r tir o'i gwmpas yn gorslyd. Fe'i amgylchynnir ar dair ochr gan goed conifferaidd. I'r gogledd-orllewin ceir Castell y Gwynt, craig ar lethrau bryn Pen y Drum.

Gellir cyrraedd y llun o sawl cyfeiriad ar y rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus yng Nghoedwig Gwydyr. Mae un llwybr yn cychwyn ger eglwys Llanrhychwyn (1.5 milltir i'r gogledd). Ceir un arall o Nant Bwlch yr Haearn (1 milltir i'r dwyrain) ac un arall o lan Llyn Geirionydd (1 milltir i'r gorllewin). Does dim ffordd i'r llyn heblaw am un o draciau'r Comisiwn Coedwigaeth.

Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.