Llanrhychwyn
Pentref bach a phlwyf eglwysig yng nghymuned Trefriw, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llanrhychwyn.[1][2] Mae hen eglwys yno, sef Eglwys Sant Rhychwyn. Mae'r plwyf yn eang ac yn cynnwys Betws-y-Coed. Yn ymyl y pentref ceir Coedwig Gwydyr. I'r de-orllewin gorwedd Llyn Geirionnydd.
![]() | |
Math | pentrefan ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1405°N 3.8296°W ![]() |
Cod OS | SH776619 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au | Robin Millar (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Eglwys LlanrhychwynGolygu
Yn ôl traddodiad roedd y Dywysoges Siwan, gwraig Llywelyn Fawr, yn blino ar deithio yr holl ffordd o'r llys yn Nhrefriw i eglwys Llanrhychwyn ac felly cododd Llywelyn eglwys newydd iddi yn Nhrefriw yn y flwyddyn 1220.
Mae'r eglwys yn hen. Dywedir iddi gael ei sefydlu gan Sant Rhychwyn. Roedd y sant yn un o feibion Helig ap Glannog yn ôl traddodiad, ond ni wyddys dim arall amdano. Ceir llun dychmygol o Rychwyn gyda Dewi Sant yn eglwys Llanrwst. Ei wylmabsant yw 12 Gorffennaf.
Pobl o LanrychwynGolygu
- Robert Williams (Trebor Mai) (1830–77). Ganed y bardd mewn bwthyn ger eglwys y plwyf a threuliodd ei blentyndod yn y pentref. Yn ddyn ifanc, symudodd i fyw a gweithio yn Llanrwst a daeth yn un o feirdd mwyaf adnabyddus ei ddydd, yn arbennig oherwydd ei ddawn i gyfansoddi englynion.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 24 Tachwedd 2021
Trefi
Abergele ·
Bae Colwyn ·
Betws-y-Coed ·
Conwy ·
Cyffordd Llandudno ·
Degannwy ·
Hen Golwyn ·
Llandudno ·
Llanfairfechan ·
Llanrwst ·
Penmaenmawr ·
Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel ·
Bae Penrhyn ·
Betws-yn-Rhos ·
Bryn-y-maen ·
Bylchau ·
Caerhun ·
Capel Curig ·
Capel Garmon ·
Cefn Berain ·
Cefn-brith ·
Cerrigydrudion ·
Craig-y-don ·
Cwm Penmachno ·
Dawn ·
Dolgarrog ·
Dolwen ·
Dolwyddelan ·
Dwygyfylchi ·
Eglwys-bach ·
Esgyryn ·
Gellioedd ·
Glanwydden ·
Glasfryn ·
Groes ·
Gwytherin ·
Gyffin ·
Henryd ·
Llanbedr-y-cennin ·
Llandrillo-yn-Rhos ·
Llanddoged ·
Llanddulas ·
Llanefydd ·
Llaneilian-yn-Rhos ·
Llanfair Talhaearn ·
Llanfihangel Glyn Myfyr ·
Llangernyw ·
Llangwm ·
Llangystennin ·
Llanrhos ·
Llanrhychwyn ·
Llan Sain Siôr ·
Llansanffraid Glan Conwy ·
Llansannan ·
Llysfaen ·
Maenan ·
Y Maerdy ·
Melin-y-coed ·
Mochdre ·
Nebo ·
Pandy Tudur ·
Penmachno ·
Pensarn ·
Pentrefelin ·
Pentrefoelas ·
Pentre-llyn-cymmer ·
Pentre Tafarnyfedw ·
Pydew ·
Rowen ·
Rhydlydan ·
Rhyd-y-foel ·
Tal-y-bont ·
Tal-y-cafn ·
Trefriw ·
Tyn-y-groes ·
Ysbyty Ifan