Llyn Llwydiarth

llyn ar Ynys Môn

Llyn ar Ynys Môn yw Llyn Llwydiarth. Dyma darddle Afon Braint, sydd â lle yn y Mabinogi.

Llyn Llwydiarth
Mathllyn, cronfa ddŵr Edit this on Wikidata
LL-Q9309 (cym)-Calab22-Llyn Llwydiarth (Q20596204).wav Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.284327°N 4.178009°W Edit this on Wikidata
Map

Gorwedd y llyn rhwng pentrefi Pentraeth a Llanddona ym mhen de-ddwyreiniol yr ynys ar lethrau bryn isel coediog Mynydd Llwydiarth. Gorchuddir y bryn hwn gan goedwig gonifferaidd Coed Pentraeth, sy'n un o gadarnleoedd y Wiwer Goch.

Er bod y llyn dim ond tua 2 filltir o arfordir gogleddol Môn, mae Afon Braint yn llifo i'r cyfeiriad arall gan groesi y cyfan o dde'r ynys i aberu yn Abermenai, tua 12 milltir i ffwrdd.

Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato