Mynydd Llwydiarth
bryn (158m) ar Ynys Môn
Bryn ar Ynys Môn yw Mynydd Llwydiarth. Mae'r copa yn 158 medr o uchder.
Math | bryn, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 158 metr |
Cyfesurynnau | 53.285551°N 4.188708°W |
Cod OS | SH5408378684 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 59 metr |
Rhiant gopa | Mynydd Bodafon |
Saif y bryn yn ne-ddwyrain yr ynys, i'r dwyrain o bentref Pentraeth ac i'r gorllewin o bentref Llanddona, a gerllaw glannau Traeth Coch. Gorchuddir y bryn gan goedwig gonifferaidd Coed Pentraeth, sy'n un o gadarnleoedd y Wiwer Goch. Ceir llyn, Llyn Llwydiarth, ar ochr ddeheuol y mynydd, ac mae afon Braint yn tarddu yma.