Llyn Tanganica

(Ailgyfeiriad o Llyn Tanganyika)

Llyn yng nghanolbarth Affrica yw Llyn Tanganica. Ef yw'r llyn ail-fwyaf yn Affrica o ran arwynebedd, 32,900 km², ond y dyfnaf a'r un sy'n dal mwyaf o ddŵr. Mae'n 1,470 m o ddyfnder yn y man dyfnaf; dim ond Llyn Baikal yn Siberia sy'n ddyfnach ac yn dal mwy o ddŵr ymhlith llynnoedd dŵr croyw y byd.

Llyn Tanganyika
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolLlynnoedd Mawr Affrica, Rift Valley lakes Edit this on Wikidata
GwladTansanïa, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Bwrwndi, Sambia Edit this on Wikidata
Arwynebedd32,900 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr773 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau6.1°S 29.5°E Edit this on Wikidata
Dalgylch231,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd673 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Llyn Tanganica

Rhennir y llyn rhwng pedair gwlad: Bwrwndi, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Tansanïa a Sambia. Llifa Afon Lukuga o'r llyn i ymuno ag Afon Congo. Yr afonydd mwyaf sy'n llifo i mewn iddo yw Afon Ruzizi ac Afon Malagarasi.

Ceir tua 250 rhywogaeth o bysgod cichlid yn y llyn, a tua 150 o rywogaethau eraill o bysgod. Mae pysgota yn ddiwydiant pwysig yma.