Llyn Twr Glas
Llyn yn ne Gwynedd yw Llyn Twr Glas (neu Twrglas[1], Llyn Twr-glas a Llyn Tŵr Glas[2]). Fe'i lleolir yn ardal Ardudwy ym Meirionnydd, tua hanner ffordd rhwng Trawsfynydd i'r dwyrain a Harlech i'r gorllewin.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Trawsfynydd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 1,750 troedfedd |
Cyfesurynnau | 52.872665°N 3.987225°W |
Saif y llyn bychan hwn 1,750 troedfedd[2] i fyny yn agos i gopa Craig Wion yn y Rhinogydd, rhwng Rhinog Fawr a Moel Ysgyfarnogod yn rhan ogleddol y mynyddoedd hynny.[1]
Mae'n llyn anghysbell iawn, mewn pant creigiog ger copa Craig Wion. Ceir llyn bychan arall, sef Llyn Pryfed, tua hanner milltir i'r de.
Does dim pysgod yn Llyn Twrglas ond ceir brithyll yn Llyn Pryfed gerllaw.[2]
Enw
golyguCeir sawl ffurf ar yr enw (gweler uchod). Mae'n naturiol i siaradwyr Cymraeg feddwl mai "Llyn (y) Tŵr Glas" yw'r ffurf gywir ar yr enw, ond gallai'r gair twr yma olygu "tomen, cruglwyth" (ail elfen y gair "pentwr") ac yn cyfeirio at dwr o gerrig ger y llyn. Ceir enghraifft arall o'r gair 'twr' (sef 'pentwr') yn enw Mynydd Twr, ger Caergybi.[3]