Llyn Wysg
Cronfa ddŵr yn Sir Gaerfyrddin yn ne Cymru yw Llyn Wysg, hefyd Cronfa Wysg (Saesneg: Usk Reservoir). Saif yng ngogledd y Mynydd Du ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'n agos at darddle Afon Wysg, 1,050 troedfedd (320 m) uwch lefel y môr. Saif rhwng Trecastell a Llanddeusant, saith milltir i'r gorllewin o Bontsenni.
Math | cronfa ddŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Myddfai, Llywel |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.9444°N 3.7139°W |
Rheolir gan | Dŵr Cymru |
Gorffennwyd adeiladu'r argae yn 1955, gan greu llyn gydag arwynebedd o 280 km2.