Mynydd Du (Sir Gaerfyrddin)
Cadwyn o fynyddoedd yn Sir Gaerfyrddin yw'r Mynydd Du, sy'n gorwedd ym mhen gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Fan Brycheiniog (802 m) yw copa uchaf y Mynydd Du. Yr unig ffordd fawr i groesi'r ardal yw'r A4069, rhwng Brynaman a Llangadog; cyfeiriad grid SO255350. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 549 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.8814°N 3.7085°W |
- Am y Mynydd Du yn Sir Fynwy, gweler Mynydd Du (Mynwy).
Ymestyn y gadwyn o gyffiniau Rhydaman yn y de-orllewin hyd Pontsenni yn y gogledd-ddwyrain. Mynyddoedd Hen Dywodfaen Coch a chalchfaen ydynt yn bennaf. Mae'r Mynydd Du yn rhan o barc daearegol newydd Fforest Fawr.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 703 metr (2306 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.
Copaon cyfagos
golygu- Cefn Carn Fadog (505 m)
- Fan Brycheiniog (802 m)
- Foel Fraith (604 m)
- Garreg Lwyd (616 m)
- Mynydd Myddfai
- Fan Hir (761 m)
- Picws Du (749 m)
- Trichrug (415 m)
Llên gwerin
golyguMae'r Mynydd Du a'r cylch yn ardal gyfoethog ei chwedlau gwerin. Yr enwocaf yw honno am Arglwyddes Llyn y Fan Fach. Yma hefyd y lleolir chwedl Llyn Llech Owain a chwedl Ogof Craig y Ddinas. Ar odre gogleddol y Mynydd Du ceir pentref Myddfai, cartref Meddygon Myddfai yn yr Oesoedd Canol.
Darllen pellach
golygu- Aneirin Talfan Davies, Crwydro Sir Gâr (Llyfrau'r Dryw, Llandybie, 1955; ail arg. 1970)
- Gomer Morgan Roberts, Chwedlau Dau Fynydd (Llyfrau'r Dryw, Llandybie, 1948)