Llyn y Cwrt
llyn yn Sir Ddinbych
Llyn bychan yn Sir Conwy yw Llyn y Cwrt. Fe'i lleolir yn ne'r sir tua hanner ffordd rhwng Pentrefoelas i'r gorllewin a Cherrigydrudion i'r dwyrain, ar ymyl Mynydd Hiraethog.[1] 128.81
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.046952°N 3.631371°W |
Saif y llyn ger pentrefan Glasfryn, tua chwarter milltir i'r gogledd o'r briffordd A5. Llifa ffrwd fechan o'i ben deheuol i lifo i Afon Merddwr, sy'n un o lednentydd Afon Conwy.[1] Uchder: 990 troedfedd[2]
Mae'n debyg bod enw'r llyn yn cyfeirio at lleoliad llys canoloesol lleol maenor Hiraethog gerllaw, efallai yn ffermdy Cwrt y Llyn neu Gernioge. Mae Cernioge yn ffermdy heddiw ond bu'n dafarn adnabyddus cyn hynny ar yr hen lôn goets. Ceir brithyll yn y llyn.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Map OS 1:50,000 Landranger 116 Dinbych a Bae Colwyn.
- ↑ 2.0 2.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931), tud. 94.