Llyn yn ne Gwynedd yw Llyn y Fedw. Fe'i lleolir yng nghymuned Talsarnau, tua 2 filltir i'r de o bentref Talsarnau ei hun a thua 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Harlech yn ardal Ardudwy, Meirionnydd.

Llyn y Fedw
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolRhinogydd Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.876049°N 4.044221°W Edit this on Wikidata
Map
Llyn y Fedw

Saif y llyn hwn 1,062 troedfedd[1] i fyny ar lethrau Craig Ddrwg ym mhen gogleddol mynyddoedd y Rhinogau. Llifa ffrwd o ben gogleddol y llyn i ymuno yn Afon Eisingrug gerllaw pentrefan Eisingrug.[2]

Mae'r llyn yn ddwfn yn ei ganol gydag ymylon bas, creigiog. Ceir brithyll niferus yn y llyn, sydd ar ystad Arglwydd Harlech.[1]

Ychydig i'r gorllewin o'r llyn ceir Moel Goedog, bryn sydd â bryngaer ar ei gopa ynghyd â sawl carnedd gylchog.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).
  2. Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.