Llyn y Fydlyn

llyn dŵr croyw arfordirol yng ngogledd Ynys Môn

Llyn dŵr croyw arfordirol yng ngogledd Ynys Môn yw Llyn y Fydlyn (weithiau Llyn Fydlyn) a cheir Ynys Fydlyn o fewn tafliad carreg. Fe'i lleolir tua milltir i'r gorllewin o bentref Llanfair-yng-Nghornwy yng nghymuned Cylch y Garn ar lan Bae Caergybi. Enwir y lagŵn hwn ar ôl "Y Fydlyn", sef yr enw lleol am y banc neu farian o gerrig sy'n gorwedd rhwng y llyn a'r môr. Ceir Ynys y Fydlyn, sef dwy ynys fach ar y traeth, gerllaw.

Llyn y Fydlyn
Mathllyn Edit this on Wikidata
LL-Q9309 (cym)-Calab22-Llyn y Fydlyn (Q20596446).wav Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.394798°N 4.568165°W Edit this on Wikidata
Map
"Y Fydlyn"

Amgylchynir y llyn bychan hwn gan goedwigoedd conwydd, ac eithrio ar gerrig y Fydlyn ei hun. Ffurfiwyd y lagŵn pan rwystrodd cerrig y farian ddŵr ffrwd leol rhag cyrraedd y môr. Mae'r llyn yn fas ac yn gallu troi'n sych bron yn yr haf.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Y Fydlyn Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback., gwefan Blueseasurf.

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato