Llynnau Cerrig Y Myllt
Dau lyn cyfagos yn Eryri yw Llynnau Cerrig-y-myllt. Fe'i lleolir ym mynyddoedd y Moelwynion rhwng Beddgelert a Blaenau Ffestiniog.
![]() | |
Math | llyn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.005369°N 4.04076°W ![]() |
![]() | |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/65/Llynnau_Cerrig-y-myllt_-_geograph.org.uk_-_162456.jpg/250px-Llynnau_Cerrig-y-myllt_-_geograph.org.uk_-_162456.jpg)
Saif y llynnoedd hyn ar dir uchel tua milltir i'r gorllewin o gopa'r Cnicht. Llifa ffrwd o'r llynnoedd i Afon Nanmor, sy'n llifo i lawr Cwm Nanmor i aberu ar y Traeth Mawr.[1]
Lleolir Llynnau Cerrig-y-myllt mewn ardal o rosdir gwlyb a mynyddoedd creigiog sy'n cynnwys sawl llyn arall o fewn rhyw filltir neu ddwy i'r llyn hwn, yn cynnwys Llyn y Biswail, Llyn yr Adar a Llyn Llagi.[1]