Llynnau Diffwys
dau lyn yn Eryri - a leolir ym mynyddoedd y Moelwynion rhwng Beddgelert a Blaenau Ffestiniog
Dau lyn yn Eryri yw Llynnau Diffwys. Fe'i lleolir ym mynyddoedd y Moelwynion rhwng Beddgelert a Blaenau Ffestiniog.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.00177°N 3.999709°W |
Saif y llynnau ar dir uchel tua milltir i'r dwyrain o gopa'r Cnicht. Llifa ffrwd o'r llyn i Afon Cwm-y-foel, tarddle un o lednentydd Afon Croesor.[1]
Lleolir Llynnau Diffwys mewn ardal o rosdir gwlyb a mynyddoedd creigiog sy'n cynnwys sawl llyn arall o fewn rhyw filltir neu ddwy i'r llyn hwn, yn cynnwys Llyn y Biswail, Llyn Croesor, Llyn yr Adar, Llyn Llagi a Llyn Cwm-corsiog.[1]
Cyfeiriadau
golygu{{comin|Category: