Sempervivum tectorum
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau craidd
Urdd: Saxifragales
Teulu: Crassulaceae
Genws: Sempervivum
Rhywogaeth: S. tectorum
Enw deuenwol
Sempervivum tectorum
Carl Linnaeus

Planhigyn blodeuol a deugotyledon suddlon yw Llysiau pen tai sy'n enw lluosog. Mae'n perthyn i'r teulu Crassulaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Sempervivum tectorum a'r enw Saesneg yw House-leek.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys: Byddarllys, Bywfyth, Bywlys, Cwlwm y To, Cyfagwy, Cynffon y Llygoden, Dail Llygaid, Dilosg, Irddail, Llys Pen Tai, Llysiau'r Gwayw, Llysiau y Gwaew, Llysiau y Gwayw, Mochyn To a Thewddail y Muriau. Ymhlith yr enwau Saesneg amdano mae Welcome-home-husband-though-never-so-drunk[2]—enw mae'n ei rannu gyda Sedum acre.[3]

Ym mynyddoedd de Ewrop mae gwreiddiau'r planhigyn bytholwyrdd hwn, ond bellach mae'n eitha cyffredin drwy Erwop, gan cynnwys Cymru. Esgblygodd y planhigyn hwn tua 100-60 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn nwyrain Affrica a thiroedd Môr y Canoldir. Cafodd ei ddisgrifio ar bapur yn gyntaf a'i gofrestru gyda'r enw Sempervivum tectorum yn 1753 gan Linnaeus, a nododd fod y dail yn 'flewynnog a chiliedig', h.y. gyda'u hymylon wedi'u gorchuddio mewn blew mân.[4]

Disgrifiad golygu

Mae'n tyfu i uchder o tua 15 cm (6 mod) wrth 50 cm o led (20 mod) gan ffurfio blodau tebyg i rosetiau. Mae'r dail yn dew ac yn suddlawn ac yn llwydwyrdd; tyfant i ddiametr o 4–10 cm (2-4 mod). Yn yr haf mae'r blodau'n tyfu, mewn sypiau neu glystyrau o tua 8-16 a rheiny'n goch - piws ar ben bonyn bychan tew a blewog.[4][5][6][7] Ceir amrywiaeth fawr oddi fewn i'r rhywogaeth hon.[7]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  2. Watts, Donald (2007). Dictionary of Plant Lore. Elsevier. t. 202. ISBN 978-0-12-374086-1.
  3. Fenton, James. "Clare Was Right". NY Review of Books. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2011.
  4. 4.0 4.1 Linnæus, Carl von (1753), "Sempervivum", Species plantarum, 1, Holmiae, p. 464, http://www.botanicus.org/page/358483, adalwyd 6 Gorffennaf 2011
  5. Brickell, Christopher, gol. (2008). The Royal Horticultural Society A-Z Encyclopedia of Garden Plants (arg. 3rd). London: Dorling Kindersley. t. 1136. ISBN 1405332964.
  6. Gen. Pl (5 ed.), 1754, p. 209, http://www.efloras.org/florataxon.aspx?flora_id=1&taxon_id=130076, adalwyd 6 July 2011
  7. 7.0 7.1 Linnaeus (1753). "Sempervivum tectorum". Species Plantarum. 1. Flora of North America. p. 464. http://www.efloras.org/florataxon.aspx?flora_id=1&taxon_id=220012387. Adalwyd 6 Gorffennaf 2011.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: