Locomotif dosbarth 5MT Stanier 4-6-0

Mae Locomotif dosbarth 5MT Stanier 4-6-0 o’r Rheilffordd Llundain, y Canolbarth a’r Alban yn ddosbarth o Locomotif stêm cynlluniwyd gan Syr Willam A Stanier. Adeiladwyd 842 rhwng 1934 a 1951, gyda’r rhifau 4658-5499 hyd at 1948, pan newidiwyd eu rhifau i 44658-45499. Goroesodd nifer ohonynt hyd at ddiwrnod olaf stêm ar y rheilffyrdd cenedlaethol ym 1968, ac mae 18 mewn cadwraeth. Roeddent yn locomotifau aml-bwrpas ac yn llwyddiannus dros ben. Roedd Stanier wedi gweithio dros Reilfordd y Great Western a chafodd ei ddylanwadu gan gynllun eu locomotifau,[1] yn yr achos yma, yn benodol gan y dosbarth 'Hall'.[2] Dechreuodd y proses o gynllunio'r locomotif yn Euston, trosglwyddwyd i Weithdy Horwich ac wedyn i Gryw.[3]

Locomotif dosbarth 5MT Stanier 4-6-0
Math o gyfrwngdosbarth o locomotifau Edit this on Wikidata
Mathlocomotif stêm â thendar Edit this on Wikidata
Lled y cledrau1435 mm Edit this on Wikidata
GweithredwrLondon, Midland and Scottish Railway, London Midland Region of British Railways Edit this on Wikidata
GwneuthurwrCrewe Works, Derby Works, Horwich Works, Vulcan Foundry, Armstrong Whitworth Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gwnaethpwyd newidiau i rai o’r locomotifau dros y blynyddoedd; gwnaethpwyd arbrofion arnynt cyn dechrau adeiladu’r locomotifau safonol o 1951 ymlaen. Ymysg y newidiadau oedd ger falf Caprotti[4], rolferynnau Timken neu SKF, blwch tân dur a newidiadau i lanhau’r blwch mwg yn awtomatig.

Archebwyd 20 locomotif o Weithdy Cryw ym mis Ebrill 1934, a 50 o Ffowndri Vulcan ym 1933. Roedd ganddynt amrywiaeth o foelers. Archebwyd 5 locomotif arall o Gryw, 50 o Ffowndri Vulcan a 100 o Gwmni Armstrong Whitworth. Archebwyd 227 o Armstrong Whitworth ym 1936, a 20 o Gryw. Adeiladwyd locomotifau yng Ngweithdy Derby o 1943 ymlaen. Newidiwyd rhifau’r locomotifau ym 1948. Yn y pen draw, adeiladwyd 842 o locomotifau, gyda’r rhifau 44658-45499.

Locomotifau Ivatt

golygu

Adeiladwyd y fersiwn Ivatt o 1947 ymlaen gyda nifer o addasiadau; roedd newidiadau i ferynnau a gêr falf ym 1948. Roedd hefyd blychau tân dur a simneau dwbl. Cafodd 44738-57 Gêr falf Caprotti a chafodd 44686-7 gêr falf Caprotti newydd, defnyddiwyd yn ddiweddarach ar rai o locomotifau safonol Rheilffordd Brydain.

Cafodd ond 5 o’r dosbarth enwau yn ystod eu gyrfeydd gyda Rheilffordd Brydeinig,[5] i gyd gyda enwau catrodau o’r Alban. Cafodd 5155 yr enw ‘The Queen’s Edinburgh’ dros gyfnod o 2 flynedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae 7 arall wedi cael enwau yng nghadwraeth.

Enwau'r locomotifau
rhif LMS rhif BR enw dyddiad hyd at
5154 45154 Lanarkshire Yeomanry 1937 1966
5155 45155 The Queen's Edinburgh 1942 1944 (gweithiodd hyd at 1964)
5156 45156 Ayrshire Yeomanry 1936 1968
5157 45157 The Glasgow Highlander 1936 1962
5158 45158 Glasgow Yeomanry 1936 1964

Cadwraeth

golygu

Mae 18 o’r dosbarth mewn cadwraeth. Prynwyd 12 ohonynt yn uniongyrchol o Reilffordd Brydeinig (sef 44767, 44806, 44871, 44932, 45000, 45025, 45110, 45212, 45231, 45305, 45407 a 45428) a’r gweddill o Iard Sgrap Dai Woodham (44901, 45163, 45293, 45337, 45379 a 45491). Adeiladwyd 7 ohonynt gan Reilffordd Llundain, y Canolbarth a’r Alban a’r gweddill gan gwmnïau allanol. Mae 14 o’r 18 wedi gweithio yng nghadwraeth. Ni ddefnyddiwyd 44901, 45163, 45293 a 45491 hyd yn hyn. Mae 12 ohonynt wedi gweithio ar y brif linellau: 44767, 44871, 44932, 45000, 45025, 45110, 45212, 45231, 45305, 45337, 45407 a 45428.

Locomotifau mewn cadwraeth

golygu
Rhif Enw† Adeiladwyr Boeler Adeiladwyd Gadawodd Wasanaeth Rheilffordd Statws Lifrai Prif linellau? Llun Nodiadau
LMS BR
4767 44767 *George Stephenson Cryw Blaen Top Rhagfyr 1947 Rhagfyr 1967 Carnforth Atgyweirir. *BR Du â llinellau, Bathodyn hwyr Bwriadir   Yr unig un o'r dosbarth gyda gêr falf Stephenson.
4806 44806 Kenneth Aldcroft
cynt Magpie
Derby Cromennog Gorffennaf 1944 Awst 1968 Rheilffordd Rhosydd Gogledd Swydd Efrog Atgyweirir *BR Du â llinellau Bwriadir (Grosmont - Whitby a Whitby - Battersby yn unig).   Tocyn Boeler wedi gorffen ar 1 Ionawr 2018
4871 44871 Sovereign) Cryw Cromennog Mawrth 1945 Awst 1968 Rheilffordd Dwyrain Swydd Gaerhirfryn Do BR Du â llinellau, Bathodyn cynnar Do (2017 - 2024)   Perchennog Ian Riley.
4901 44901 Cryw Cromennog 1945 Awst 1965 Rheilffordd Dyffryn Berkeley Disgwyl am atgyweiriad o gyflwr y Barri Naddo
4932 44932 Horwich Cromennog Medi 1945 Awst 1968 Carnforth Atgyweirir. BR Du â llinellau, Bathodyn hwyr Bwriadir  
5000 45000 Cryw Heb gromen Mawrth 1935 Hydref 1967 Amgueddfa Locomotion Shildon Arddangosir Du LMS Naddo   Rhan o'r casgliad cenedlaethol
5025 45025 Ffowndri Vulcan Heb gromen Awst 1934 Awst 1968 Rheilffordd Strathspey Atgyweirir *Du LMS Black Naddo   Yr un hynaf sy'n goroesi
5110 45110 RAF Biggin Hill (enw cynt) Ffowndri Vulcan Heb gromen Gorffennaf 1935 Awst 1968 Rheilffordd Dyffryn Hafren Mewn storfa *BR Du â llinellau, Bathodyn hwyr Naddo   Symudwyd o'r Tŷ Injan i storfa ym Mawrth 2019.
5163 45163 Armstrong Whitworth Cromennog Awst 1935 Mai 1965 Rheilffordd Dyffryn Colne Atgyweirir N/A Naddo
5212 45212 Roy 'Korky' Green Railwayman 1926-2001 (enw cynt) Armstrong Whitworth cromennog Tachwedd 1935 Awst 1968 Rheilffordd Keighley a Dyffryn Worth Gweithredol ar brif rheilffyrdd. BR Du â llinellau, Bathodyn hwyr Do (2017 - 2024)   Ar fenthyg gan Ian Riley; daeth yn ôl wedi atgyweiriad yn Bury, Gorffennaf 2016.
5231 45231 The Sherwood Forester Armstrong Whitworth Cromennog Awst 1936 Awst 1968 Cryw Diesel TMD Gweithredol ar brif rheilffyrdd. BR Du â llinellau, Bathodyn hwyr Do (2013 - 2020)   Bert Hitchen oedd y perchennog gwreiddiol; gwerthwyd gan ei deulu yn Nhachwedd 2015 i Jeremy Hosking
5293 45293 Armstrong Whitworth Cromennog Rhagfyr 1937 Awst 1965 Rheilffordd Dyffryn Colne Atgyweirir. N/A Naddo
5305 45305 Alderman A. E. Draper Armstrong Whitworth Cromennog Ionawr 1937 Awst 1968 Rheilffordd y Great Central Gweithredol. BR Du â llinellau, Bathodyn hwyr Do   Ar Rheilffordd y Great Central; gobeithio bydd yn gweithio ar brif Rheilffyrdd.
Mae angen tystysgrif boeler newydd. Boiler certificate expires 2020. Perchnogion y teulu Draper, Hull.
5337 45337 Armstrong Whitworth Cromennog Ebrill 1937 Chwefror 1965 Rheilffordd Llangollen Trwsir y ei foeler. BR Du heb linellau, Bathodyn hwyr Naddo  
5379 45379 Armstrong Whitworth Cromennog Gorffennaf 1937 Gorffennaf 1965 Rheilffordd Canol Swydd Hampshire Mewn storfa BR gyda llinellau, Bathodyn hwyr No   tocyn boeler yn dod i ben 2018.
5407 45407 The Lancashire Fusilier Armstrong Whitworth Cromennog Medi 1937 Awst 1968 Rheilffordd Dwyrain Swydd Gaerhirfryn Under Overhaul BR gyda llinellau, Bathodyn cynnar Do (2019 - 2026)   Perchennog Ian Riley.
5428 45428 Eric Treacy Armstrong Whitworth Cromennog Hydref 1937 Hydref 1967 Rheilffordd Rhosydd Gogledd Swydd Efrog Gweithredol ar brif linellau. LMS Du Do (Grosmont i Whitby a Whitby i Battersby yn unig, 2018-2025)
 
5491 45491 Derby Topfeed blaen Rhagfyr 1943 Gorffennaf 1965 Rheilffordd y Great Central Atgyweirir N/A No

† Enwyd y locomotifau mewn cadwraeth.

  • Mae 44767 yn cario arwydd sy'n dweud: 'This locomotive was named by the Rt. Hon. William Whitelaw, C.H., M.C., M.P. at Shildon on 25 August 1975, to commemorate the 150th anniversary of the Stockton and Darlington Railway.'
  • enwyd 44806 ar ôl rhaglen deledu Magpie ym 1973, yn cadw'r enw gyda Rheilffordd Lakeside a Haverthwaite a gyda Rheilffordd Llangollen hyd at 2003. Yn hwyrach cafodd yr enw "Kenneth Aldcroft". Erbyn hyn, mae'n gweithio heb enw ar Reilfordd Rhosydd Gogledd Swydd Efrog.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Preserved British Steam Locomotives
  2. Gwefan railwayblogger.com
  3. Gwefan leeds-engineers.org.uk
  4. Gwefan locomotif.fandom.com
  5. "Gwefan heritagerailway.co.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-17. Cyrchwyd 2021-02-16.