The Lord of the Rings
Nofel ffantasi arwrol a ysgrifennwyd gan yr academydd Seisnig J. R. R. Tolkien yw The Lord of the Rings ("Arglwydd y Modrwyau"). Dechreuodd y stori fel dilyniant i lyfr ffantasi blaenorol Tolkien, Yr Hobyd (The Hobbit yn Saesneg), ond datblygodd i fod yn stori llawer mwy. Ysgrifennwyd y nofel fesul cam rhwng 1937 a 1949, a llawer ohoni yn cael ei greu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Er i Tolkien fwriadu cynhyrchu gwaith un gyfrol, cyhoeddwyd y llyfr yn wreiddiol mewn tair cyfrol ym 1954 a 1955, ac yn y ffurf tair cyfrol hon yr adwaenir yn boblogaidd. Ers hynny, cafodd y nofel ei hailargraffu nifer o weithiau, a'i chyfieithu i o leiaf 38 o ieithoedd, gan ddod yn un o weithiau llenyddiaeth fwyaf poblogaidd yr 20g. Hyd yn hyn, er hynny, ni chyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg.
Dyluniadau cloriau Tolkien ar gyfer y tair cyfrol | |
Awdur | J. R. R. Tolkien |
---|---|
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Math |
Ffantasi arwrol, Nofel antur |
Cyhoeddwr | Geo. Allen & Unwin |
Dyddiad cyhoeddi | 1954 a 1955 |
Rhagflaenwyd gan | The Hobbit |
Crynodeb
golyguMae stori Lord of the Rings yn digwydd mewn amser a lle dychmygol, sef Trydedd Oes y Canol Fyd (h.y. "the Third Age of Middle-earth"). Mae'r tirwedd naturiol yn debyg i'n daear ni, yn hytrach na phlaned arallfydol. Dywedodd Tolkien ei hun mai ein daear ni tua 6000 o flynyddoedd yn ôl yw'r lleoliad, er bod y gyfatebiaeth ddaearyddol a hanesyddol â daearyddiaeth a hanes y byd go iawn yn denau. Poblogir tiroedd y Canol Fyd gan Ddynion a hilion dynol eraill o'r enw Hobitiaid[1], Ellyllon, Corachod ac Orchod (Orcs). Mae'r stori yn canoli ar y Fodrwy Grym a wnaed gan yr Arglwydd Tywyll Sauron. Yn cychwyn o ddechreuadau tawel yn y Sir (Shire), mae'r stori yn crwydro dros Ganol-ddaear ac yn dilyn Rhyfel y Fodrwy trwy lygaid ei gymeriadau, yn arbennig y cymeriad canolog Frodo Baggins. Dilynir y brif stori gan chwe atodiad sy'n darparu toreth o ddeunydd cefndirol, hanesyddol ac ieithyddol.
Dylanwadau
golyguYnghyd ag ysgrifeniadau eraill Tolkien, dadansoddwyd Lord of the Rings yn helaeth yn nhermau ei wreiddiau a themâu llenyddol. Er bod y gwaith ei hun yn un pwysig, y symudiad olaf yn unig o chwedloniaeth yr oedd Tolkien wedi gweithio arni ers 1917 yw'r stori. Mae dylanwadau ar y gwaith blaenorol hwn, ac ar stori Lord of the Rings, yn cynnwys ieitheg, mytholeg, diwydiannaeth a chrefydd, yn ogystal â gweithiau ffantasi blaenorol a phrofiadau Tolkien yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ystyrir hefyd bod Lord of the Rings, yn ei dro, wedi cael effaith o bwys ar ffantasi modern.
Poblogrwydd
golyguMae poblogrwydd aruthrol a pharhaol Lord of the Rings wedi arwain at nifer o gyfeiriadau mewn diwylliant poblogaidd, sefydliad llawer o gymdeithasau gan gefnogwyr gweithiau Tolkien, a chyhoeddiad llawer o lyfrau am Tolkien a'i weithiau. Mae Lord of the Rings wedi ysbrydoli (ac yn dal i ysbrydoli) gweithiau celfyddyd, cerddoriaeth, ffilmiau a theledu, gemau fideo a llenyddiaeth ddilynol. Gwnaethpwyd addasiadau o Lord of the Rings ar gyfer radio, theatr a ffilm. Yn dilyn rhyddhau cyfres lwyddiannus dros ben o dair ffilm Lord of the Rings rhwng 2001 a 2003 cododd ton newydd o ddiddordeb yn Lord of the Rings a gweithiau eraill Tolkien.
Nododd Tolkien fod llawer o'r enwau yn y llyfr wedi eu seilio ar yr iaith Gymraeg.
Y Llyfrau
golyguFfilmiau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enwmultiple