Louis XIV, brenin Ffrainc
Brenin Ffrainc o 14 Mai 1643 tan 1 Medi 1715 oedd Louis XIV (Louis-Dieudonné neu le Roi-Soleil) (5 Medi 1638 – 1 Medi 1715). Bu'n frenin am gyfnod hirach nag unrhyw frenin arall, o genedl a'r maint hwn: 72 blwyddyn a 110 diwrnod.[1]
Louis XIV, brenin Ffrainc | |
---|---|
Ganwyd | 5 Medi 1638 Château de Saint-Germain-en-Laye |
Bedyddiwyd | 21 Ebrill 1643 |
Bu farw | 1 Medi 1715 Palas Versailles |
Man preswyl | Palas Versailles |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Ffrainc |
Galwedigaeth | gwleidydd, casglwr celf, actor, teyrn, gwladweinydd |
Swydd | brenin Ffrainc a Navarre, Cyd-Dywysog Ffrainc |
Tad | Louis XIII, brenin Ffrainc |
Mam | Anna o Awstria |
Priod | Maria Theresa o Sbaen, Madame de Maintenon |
Partner | Louise de La Vallière, Madame de Montespan, Claude de Vin des Œillets, Catherine Bellier, Marie Mancini, Olympia Mancini, Anne-Madeleine de Conty d'Argencourt, Catherine Charlotte de Gramont, Bonne de Pons d'Heudicourt, Anne de Rohan-Chabot, Isabelle de Ludres, Marie Angélique de Scorailles, Duchess of Fontanges |
Plant | Louis, Marie Thérèse, Philippe Charles, Y Dywysoges Anne Élisabeth o Ffrainc, Y Dywysoges Marie Anne o Ffrainc, Louis François, Françoise Marie de Bourbon, Louise Françoise de Bourbon, Louis Auguste, Louis, iarll Vermandois, Louis César, Louise Marie Anne de Bourbon, Marie Anne de Bourbon, Louise de Maisonblanche, Charles de La Baume Le Blanc, Philippe de Bourbon, mab anhysbys Bourbon, mab anhysbys, Louise Françoise de Bourbon, Louis Alexandre |
Llinach | House of Bourbon in France, Y Bourboniaid |
Gwobr/au | Urdd yr Ysbryd Glân, Urdd Sant Mihangel, Order of Saint Louis |
llofnod | |
I louis mae'r diolch am gryfhau Ffrainc yn uned a oedd yn cael ei rheoli o'i phrifddinas, Paris. Dileodd y syniad fod ffiwdaliaeth yn dderbyniol i raddau helaeth. A thrwy fynu fod yr uchelwyr cefnog yn byw yn ei balas yn Versailles, a oedd cyn hynny'n blasty hela, llwyddodd i ddofi'r pendefigion, hyd yn oed y rhai hynny a fu'n aelodau o Wrthryfel y Fronde. Roedd yn ymgorfforiad o frenhiniaeth absoliwt ac elfennau waethaf yr Ancien Régime a ddaeth i ben gyda'r Chwyldro Ffrengig.
Plentyndod a phriodas
golyguCafodd ei eni yn Saint-Germain-en-Laye, yn rhanbarth Île-de-France.[2] Ei dad oedd y Brenin Louis XIII a'i fam oedd Ann o Awstria (1601 – 1666). Fe'i galwyd yn Louis Dieudonné (Louis, rhodd gan Dduw)[3] ynghyd a'r teitl traddodiadol, Ffrengig y darpar frenin: Y Dauphin.[4] Pan anwyd ef roedd ei rieni wedi bob yn briod am 23 mlynedd, ac wedi colli pedwar plentyn ar eu genedigaeth, rhwng 1619 ac 1631. Roedd y gwleidyddion ac uchelwyr y cyfnod, felly, gweld geni Louis yn rodd gan Dduw, ac yn wyrth.
Ei wraig gyntaf oedd Maria Teresa o Awstria (1638–1683) (Sbaeneg: María Teresa; Ffrangeg: Marie-Thérèse), tywysoges o Sbaen. Cawsant chwech o blant ond un yn unig a dyfodd yn oedolyn: Monseigneur. Bu farw Maria Teresa yn 1683 a phriododd Louis ei gariad newydd Madame de Maintenon yng ngaeaf 1685-86.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Louis XIV". MSN Encarta. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-11-01. Cyrchwyd 20 Ionawr 2008.
- ↑ Sturdy, D. J. (2004). Richelieu and Mazarin : a study in statesmanship (yn Saesneg). Efrog Newydd: Palgrave Macmillan. t. 61. ISBN 9781403943927.
- ↑ Brémond, Henri (1908). La Provence mystique au XVIIe siècle (yn French). Paris: Plon-Nourrit. tt. 381–382.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ François Bluche (translated by Mark Greengrass (1990). Louis XIV. New York: Franklin Watts. t. 11. ISBN 0-531-15112-3.
Dolenni allanol
golygu- Acton, J. E. E., 1st Baron. (1906). Lectures on Modern History. London: Macmillan and Co. Archifwyd 2007-02-10 yn y Peiriant Wayback
- Goyau, G. (1910). "Louis XIV." The Catholic Encyclopedia. (Volume IX). New York: Robert Appleton Company.
- Steingrad, E. (2004). "Louis XIV."
Rhagflaenydd: Louis XIII |
Brenin Ffrainc 14 Mai 1643 – 1 Medi 1714 |
Olynydd: Louis XV |