Love Kraft
Y seithfed albwm stiwdio gan y band o Gymru, Super Furry Animals, yw Love Kraft, a ryddhawyd ar 22 Awst 2005 ar label Epic Records yn y Deyrnas Unedig.
Love Kraft | |||||
---|---|---|---|---|---|
Albwm stiwdio gan Super Furry Animals | |||||
Rhyddhawyd | 22 Awst 2005 | ||||
Recordiwyd | Figueres, Sbaen; Pleasure Foxxx, Caerdydd; The Dairy, Brixton; Stir Studios, Caerdydd | ||||
Genre | Roc | ||||
Hyd | 54:22 | ||||
Label | Epic | ||||
Cynhyrchydd | Mario Caldato Jr, Super Furry Animals | ||||
Cronoleg Super Furry Animals | |||||
|
Mae'r albwm wedi ei enwi ar ôl siop ryw, Love Craft, ger swyddfeydd Ankst Management yng Nghaerdydd, ond fel dywedodd y drymiwr Dafydd Ieuan mewn cyfweliad gyda'r Western Mail yn 2005, mae'r enw'n dod o'r ffaith fod "llawer o'r caneuon ar yr albwm am ferched a chariad, neu ddiffyg cariad, o'i blaid ac yn ei erbyn".[1]
Mae canwr y band, Gruff Rhys, wedi disgrifio'r albwm fel "y record prydferthaf rydan ni wedi ei greu ... yn gerddorfaol iawn a gweddol diamser".[2]
Tarddiad a recordio
golyguRecordiwyd Love Kraft yn Figueres, dinas fechan yng Nghatalwnia, Sbaen.[3] Yn ôl Rhys, fa ganfyddodd y band eu hunain yn y sefyllfa "anarferol" o recordio eu seithfed albwm i gyd gyda'i gilydd, a dechreuon nhw edrych ar fandiau a oed wedi creu nifer o recordiau, megis Fleetwood Mac a The Beach Boys. Roedd y bandiau wedi creu "recordiau tramor" (Tusk a Holland) felly penderfynnodd y Super Furries i wneud yr un peth ond "ar gyllid llawr tynnach ... gyrron ni ein hoffer i gyd i lawr i Figueres a recordio yno mewn tair wythnos"[3][4]
Cafodd gadael eu stiwio arferol yng Nghaerdydd effaith drom ar y caneuon yn ôl Rhys:
- "Recordwyd ef mis Mehefin diwethaf mewn gwres angerddol. Doedden ni ddim wedi arfer â gwres o gwbl, felly mae'n albwm araf iawn. Rydan ni'n ei alw'n ein albwm roc-llaca".[3][5]
Ardal | Dyddiad | Label | Fformat | Catalog |
---|---|---|---|---|
Y Deyrnas Unedig | 22 Awst 2005 [6] | Epic | Record finyl | 5205011 |
Crynoddisg | 5205012 | |||
Super Audio CD | 5205016 | |||
Traswslwytho | — | |||
Yr Unol Daleithiau | 13 Medi 2005 [6] | Beggars Banquet US | Record finyl | ? |
Crynoddisg | BXL-047-2 | |||
Traswslwytho | — |
Rhestr traciau
golyguYr holl ganeuon gan Super Furry Animals. Prif lais gan Gruff Rhys os na noder fel arall.
- "Zoom!" – 6:53
- "Atomik Lust" – 4:53
- Prif lais: Dafydd Ieuan
- "The Horn" – 3:01
- Prif lais: Huw Bunford
- "Ohio Heat" – 4:07
- "Walk You Home" – 4:00
- Prif lais: Cian Ciaran
- "Lazer Beam" – 4:55
- "Frequency" – 4:39
- "Oi Frango" – 2:23
- Offerynnol
- "Psyclone!" – 4:19
- "Back on a Roll" – 3:46
- Prif lais: Huw Bunford
- "Cloudberries" – 5:04
- "Cabin Fever" – 6:20
- Prif lais: Dafydd Ieuan a Cian Ciaran
Personel
golyguFe gyfrannodd y bobl a restrir isod at Love Kraft:[7]
Band
golygu- Gruff Rhys – Llais
- Huw Bunford – Gitâr, llais ar "The Horn" a "Back on a Roll"
- Guto Pryce – Gitâr fâs
- Cian Ciaran – Allweddellau, llais ar "Walk You Home" a "Cabin Fever"
- Dafydd Ieuan – Drymiau, llais ar "Atomik Lust" a "Cabin Fever"
Cerddorion ychwanegol
golygu- Kris Jenkins – Offerynnau taro
- Nadia Griffiths – Llais ar "Walk You Home"
- Debi McLean – Llais gofodol ar "Lazer Beam"
- Jonathan Thomas – Gitâr llithro ar "Back on a Roll"
- Jordi – Symbalau bys, clapio
- Côr CF1 – Côr
- David Ralicke – Ffliwt
- Sarah Clarke – Clarinet fâs
- Tracy Holloway – Trombôn
- Jeff Daly – Sacsoffôn baritôn
- Matthew Draper – Cor anglais
- Marcus Holloway – Sielo
- Clare Raybould – Feiolin
- Brian Wright – Feiolin
- Elspeth Cowey – Feiolin
- Ellen Blair – Feiolin
- Amanda Britton – Feiolin
- Sally Herbert – Feiolin
- Laura Melhuish – Feiolin
- Gill Morley – Feiolin
- Jacqueline Norrie – Feiolin
- Will Morris Jones – Trefniannau corawl
- Osian Gwynedd – Trefniannau corawl
- Sean O'Hagan – Trefniannau corawl, tannau a gwynt
- Super Furry Animals – Trefniannau tannau a gwynt
Personel recordio
golygu- Mario Caldato Jr. – Cynhyrchu, cymysgu, peiriannu
- Super Furry Animals – Cynhyrchu, cymysgu, cymysgu sain amgylchu
- Richard Jackson – Peiriannu (Stir Studios)
- Greg Jackman – Peiriannu (The Dairy)
- Jordi – Cynorthwyydd recordio (Musician)
- Jordan – Cynorthwyydd recordio (Musician)
- Luizao Dantas – Cynorthwyydd recordio (AR Studios)
- Leo Moreira – Cynorthwyydd recordio (AR Studios)
- Sam Wetmore – Cymysgu sain amgylchu
Arlunwaith
golygu- Pete Fowler – Arlunwaith
- Mark James – Arlunwaith
- Alexis West – Ffotograffaeth
- Leon West – Ffotograffaeth
Album chart positions
golyguSiart | Safle uchaf |
---|---|
Siart Albymau Iwerddon | 23[8] |
U.D.A. Top Heatseekers | 38[9] |
U.D.A. Albymau Annibynnol Uchaf | 47[10] |
Siart Albymau y DU | 19 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Super Furries define their Kraft :"There are a lot of songs on the album about women and love in general or the lack of it, the pros and cons of it."
- ↑ Martin Piers. "Album by album: Super Furry Animals", Uncut, Ebrill 2008. :"The most beautiful record we've made ... really orchestral and fairly timeless".
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Jinman (1 Gorffennaf 2005). 'We call it sludge-rock'. The Guardian.
- ↑ :"a much tighter budget ... [we] drove all our gear down to Figueres and recorded it in three weeks."
- ↑ "It was recorded last June in intense heat. We're not used to heat at all, so it's a very slow album. We call it our sludge-rock album".
- ↑ 6.0 6.1 Zeth Lundy (2005). Love Kraft. PopMatters.
- ↑ (CD booklet) Love Kraft (CD booklet). London: Epic Records. 2005. pp. [p.10].
- ↑ Super Furry Animals - Love Kraft. aCharts (31 Gorffennaf 2008).
- ↑ Top Heatseekers: Love Kraft. Billboard.
- ↑ Top Independent Albums: Love Kraft. Billboard.