Lucy Owen

newyddiadurwraig teledu Cymreig
(Ailgyfeiriad o Lucy Cohen)

Mae Lucy Jane Owen (née Cohen) (ganed 18 Gorffennaf 1971) yn newyddiadurwraig teledu Cymreig.

Lucy Owen
Ganwyd28 Tachwedd 1970 Edit this on Wikidata
Llandaf Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyflwynydd newyddion, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
PriodRhodri Owen Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Mynychodd Owen Ysgol Howell's yn Llandaf, Caerdydd a graddiodd mewn Saesneg o Royal Holloway, Prifysgol Llundain.

Dechreuodd ei gyrfa darlledu fel ymchwilydd gyda BBC Radio Wales, cyn symud ymlaen i ddarparu adroddiadau a chyd-gyflwyno rhaglenni. Dechreuodd ddarllen y newyddion gyda HTV Wales ym 1995 gyda chyfraniadau newyddion lleol ar gyfer GMTV. Rhwng 1996 a 2007, cyflwynodd Wales Tonight, y rhaglen newyddion rhanbarthol ar ITV Wales, a ddarlledir o Gaerdydd.

Cyflwynodd Owen ar yr ITV News Channel, a bu'n prif gyflwynydd ar ITV News, Lunchtime News, Evening News a'r Weekend News. Cyflwynodd ei rhaglen olaf o Wales Tonight ar ddydd Gwener, 19 Hydref, 2007.

Mewn cam annisgwyl a wnaed am resymau personol, o'r 5 Tachwedd 2007, dechreuodd Owen gyflwyno rhaglen newyddion nosweithiol BBC Wales, "BBC Wales Today", gan gymryd lle'r cyflwynydd Sara Edwards.[1] O ganlyniad i newid o'r naill sianel i'r llall, ymunodd Owen â'i gŵr ar y rhaglen deledu X-Ray.

Bywyd personol

golygu

Priododd Owen y cyflwynydd teledu Rhodri Owen ym Mehefin 2004, yn Eglwys Saint Andras, Saint Andras ger Dinas Powys,[2] ac mae ganddynt un mab, Gabriel.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Changing faces of BBC Wales news. BBC (29-08-2007).
  2.  Paul Maunder (23 Rhagfyr 2005). TV star Rhodri in court. South Wales Echo.