Grŵp ethnig neu ieithyddol yn nwyrain Affrica yw'r Luo neu Lwo. Maent yn byw mewn tiriogaeth sy'n ymestyn o dde Swdan ac Ethiopia hyd ogledd Wganda a dwyrain Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo a gorllewin Cenia. Maent yn siarad iaith Nilotig, is-deulu o'r ieithoedd Nilo-Saharaidd.

Credir eu bod yn deillio yn wreiddiol o dde Swdan. Geilw y Luo sy'n byw yng Nghenia eu hunain yn Joluo. Yn 1994, roedd eu poblogaeth yn 3,185,000, y trydydd fwyaf o grwpiau ethnig Cenia. Roedd tad Barack Obama yn aelod o'r adran yma o'r Luo.

Is-grwpiau Luo

golygu

Pobl enwog o dras Luo

golygu