Lycopodiophyta
Amrediad amseryddol: SilwraiddHolosen, 428–0 Miliwn o fl. CP
Cnwp-fwsogl corn carw (Lycopodium clavatum)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Lycopodiophyta
Cronquist, Takht. & W.Zimm. [P.D. Cantino & M.J. Donoghue]
Dosbarthiadau

Lycopodiopsida: cnwp-fwsoglau
Isoetopsida: cnwp-fwsoglau lleiaf, gwair merllyn, cnwp-fwsoglau anferth
Zosterophyllopsida

Grŵp o blanhigion fasgwlar, anflodeuol sy'n cynnwys y cnwp-fwsoglau a gweiriau merllyn yw Lycopodiophyta neu Lycophyta (y lycoffytiau[1]). Mae'r grŵp yn cynnwys tua 1,100-1,200 o rywogaethau.[2] Maent yn atgenhedlu â sborau yn hytrach na hadau. Mae rhywogaethau modern yn fach o ran maint ond, yn ystod y cyfnod Carbonifferaidd, ffurfiodd y cnwp-fwsoglau anferth ran bwysig o goedwigoedd y byd.[3]

Ffosil o'r cnwp-fwsogl anferth Lepidodendron

Cyfeiriadau golygu

  1. Coedwig ffosil Brymbo[dolen marw], Natur Cymru. Adalwyd 13 Mawrth 2013.
  2. Lycophyta: Systematics, UCMP. Adalwyd 22 Mawrth 2013.
  3. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato