Lysh
Drama am bedwar cymeriad mewn clinig trin alcoholiaid gan Aled Jones Williams yw Lysh.[1] Perfformiwyd y ddrama am y tro cyntaf yn 2004 gan Theatr Bara Caws. Cyfarwyddwyd gan Valmai Jones a’r actorion oedd Maldwyn John, Phil Reid, Rhodri Meilir a Betsan Llwyd. Cyhoeddodd Theatr Bara Caws gyfrol o sgript y ddrama yn 2004. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[2]
Awdur | Aled Jones Williams |
---|---|
Cyhoeddwr | Theatr Bara Caws |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Pwnc | Dramâu Cymraeg |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9780954039844 |
Disgrifiad byr
golyguDrama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol 2004 yn portreadu pedwar cymeriad mewn clinig trin alcoholiaid yn ceisio dod i delerau â gwahanol elfennau o gaethiwed yn eu bywydau.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Tri Dramodydd Cyfoes: Meic Povey, Siôn Eirian ac Aled Jones Williams – Traethawd doethuriaeth Manon Wyn Williams, Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor Hydref 2015
- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013