Môr-ffigysen onglog

Carpobrotus glaucescens
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau craidd
Urdd: Caryophyllales
Teulu: Aizoaceae
Genws: Carpobrotus
Rhywogaeth: C. glaucescens
Enw deuenwol
Carpobrotus glaucescens
(Haw.) Schwantes

Planhigyn blodeuol suddlon â dwy had-ddeilen (neu 'Deugotyledon') yw Môr-ffigysen onglog sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Aizoaceae yn y genws Carpobrotus. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Carpobrotus glaucescens a'r enw Saesneg yw Angular sea fig. Gellir bwyta'r ffrwyth sydd a blas ciwi neu fefusen hallt!

Cynefin gwreiddiol 96% o'r teulu hwn o blanhigion yw Affrica Ddeheuol ond mae'r rhywogaeth hon yn dod o ddwyrain Awstralia. Hyd y dail yw 3.5–10 cm a'u lled yw 9–15 mm; maen nhw'n llydan ac yn syth. Mae'r blodau'n 3.2–6 cm o ddiametr ac yn biws.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: