Traffordd yn Lloegr yw'r M6 sy'n ymestyn o Gyffordd 19 yr M1 wrth Gyfnewidfa Catthorpe, ger Rugby, Cofentri trwy Birmingham ac yna tua'r gogledd, gan basio trwy Stoke-on-Trent, Lerpwl, Manceinion, Preston, Caerhirfryn, Caerllywelydd ac yn terfynnu yng nghyffordd Gretna (Cyffordd 45). Yma, ychydig i'r de o'r ffin gyda'r Alban, mae'n troi i mewn i'r A74(M) sy'n mynd yn ei blaen i Glasgow fel yr M74. Mae'r draffordd yn 230 milltir o hyd.

Yr M6 yn Swydd Gaer

Ffordd osgoi Preston oedd rhan gyntaf i'w hadeiladu, a'r M6 oedd y draffordd gyntaf yn Lloegr pan agorwyd hi ar 5 Rhagfyr 1958.[1] 

CyfeirnodauGolygu

  1. "Preston Bypass Opening (Booklet)" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 29 Chwefror 2008. Cyrchwyd 20 Ionawr 2008. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)