Mabudrud

(Ailgyfeiriad o Mabudryd)

Cwmwd canoloesol yn gorwedd yn Y Cantref Mawr yn Ystrad Tywi, de-orllewin Cymru, oedd Mabudrud (sillafiad amgen: Mabudryd. Roedd yn rhan o deyrnas Deheubarth ac yn ddiweddarach daeth yn rhan o Sir Gaerfyrddin.

Gorweddai cwmwd Mabudrud yn rhan ogledd-orllewinol y Cantref Mawr, ar y ffin rhwng y cantref hwnnw â theyrnasoedd Ceredigion a Dyfed. Ffiniai â chymydau Mabelfyw, Catheiniog a Gwidigada yn y Cantref Mawr, â chantref Emlyn i'r gorllewin yn Nyfed, ac â chantref Gwynionydd yng Ngheredigion, i'r gogledd.

Gorweddai ar lan Afon Teifi. Roedd yn cynnwys Pencader, cartref yr henwr y dyfynnir ei ateb herfeiddiol i'r brenin Harri II o Loegr, pan ofynnodd y brenin a allai oresgyn y Cymry, gan Gerallt Gymro ar ddiwedd ei lyfr Disgrifiad o Gymru:

Ei gorthrymu, yn wir, ac i raddau helaeth iawn ei distrywio a'i llesgáu trwy dy nerthoedd di, O frenin, ac eiddo eraill, yn awr megis gynt a llawer gwaith eto tan orfodaeth ei haeddiannau, a ellir i'r genedl hon. Yn llwyr, fodd bynnag, trwy ddogofaint dyn, oni bo hefyd ddigofaint Duw yn cydredeg ag ef, ni wneir ei dileu. Ac nid unrhyw genedl arall, fel y barnaf fi, amgen na hon o'r Cymry, nac unrhyw iaith arall, ar Ddydd y Farn dostlem gerbron y Barnwr Goruchaf, pa beth bynnag a ddigwyddo i'r gweddill mwyaf ohoni, a fydd yn ateb dros y cornelyn hwn o'r ddaear.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Thomas Jones (gol.), Gerallt Gymro (Caerdydd, 1938), tt. 231-32.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.