Safon ryngwladol dros godau ieithoedd yw ISO 639-3. Wrth ddiffinio codau rhai o'r ieithoedd, mae'n rhoi'r term macroiaith ar achosion sydd ar y ffin rhwng bod yn dafodieithioedd gwahanol dros ben ac yn ieithoedd cytras iawn (cotinwwm ieithyddol) ac ar amrywiadau llafar sydd wedi'u hystyried naill ai'n un iaith neu'n ieithoedd gwahanol oherwydd rhesymau ethnig neu wleidyddol yn hytrach na rhai ieithyddol.

Ceir 56 o ieithoedd yn ISO 639-2 a ystyrir yn facroieithoedd yn ISO 639-3.[1] Defnyddir y categori "macroiaith" yn 16eg argraffiad Ethnologue hefyd.[2]

Nid oedd gan rai o facroieithoedd ISO 639-2 ieithoedd unigol yn ISO 639-3, e.e ara (Arabeg). Roedd gan eraill fel nor (Norwyeg) ddwy ran unigol (nno Nynorsk, nob Bokmål) eisoes yn 639-2. Mae hyn yn golygu bod rhai ieithoedd (e.e. arb Arabeg Safonol) a ystyrid yn dafodieithoedd un iaith (ara) gan ISO 639-2 yn awr yn ieithoedd unigol mewn rhai cyd-destunau yn ISO 639-3. Dyma 639-3 yn ceisio trin amrywiadau sydd efallai'n ieithyddol wahanol i'w gilydd, ond y mae'u siaradwyr yn eu gweld yn ffurfiau ar yr un iaith, e.e. yn achosion deuglosia, e.e. Arabeg Cyffredinol (639-2) [3] ac Arabeg Safonol (639-3).[4]Nodyn:TOClimit

Mathau o facroieithoedd golygu

  • elfen nad oes ganddi god ISO 639-2: 1 - hbs
  • elfennau â dwy god ISO 639-2: 4 - fas, msa, sqi, zho
  • elfennau heb godau ISO 639-1: 25
  • elfennau heb godau ISO 639-1: 30
  • elfennau y mae gan eu hieithoedd unigol godau ISO 639-1: 2
    • nor - nn, nb
    • hbs - hr, bs, sr

Rhestr o facroieithoedd golygu

Dim ond data swyddol oddi ar http://www.sil.org/iso639-3 sydd yn y rhestr hon.

ISO 639-1 ISO 639-2 ISO 639-3 Nifer yr ieithoedd unigol Enw'r facroiaith
ak aka aka 2 Acaneg
ar ara ara 30 Arabeg
ay aym aym 2 Aimareg
az aze aze 2 Aserbaijaneg
(-) bal bal 3 Balwtshi
(-) bik bik 5 Bicol
(-) bua bua 3 Bwriat
(-) chm chm 2 Mari (Rwsia)
cr cre cre 6 Cri
(-) del del 2 Delaware
(-) den den 2 Slavey (Athapasgaidd)
(-) din din 5 Dinka
(-) doi doi 2 Dogri
et est est 2 Estoneg
fa fas/per fas 2 Perseg
ff ful ful 9 Ffwla
(-) gba gba 5 Gbaya (Gweriniaeth Canolbarth Affrica)
(-) gon gon 2 Gondi
(-) grb grb 5 Grebo
gn grn grn 5 Gwarani
(-) hai hai 2 Chaida
(-)[5] (-) hbs 3 Serbo-Croateg
(-) hmn hmn 21 Hmong
iu iku iku 2 Inuktitut
ik ipk ipk 2 Inupiaq
(-) jrb jrb 5 Iddew-Arabeg
kr kau kau 3 Kanuri
(-) kok kok 2 Konkani
kv kom kom 2 Komi
kg kon kon 3 Kongo
(-) kpe kpe 2 Kpelle
ku kur kur 3 Cyrdeg
(-) lah lah 8 Lahnda
(-) man man 7 Mandingo
mg mlg mlg 10 Malagaseg
mn mon mon 2 Mongoleg
ms msa/may msa 36 Maleieg
(-) mwr mwr 6 Marwari
no nor nor 2 Norwyeg
oj oji oji 7 Ojibwe
om orm orm 4 Oromo
ps pus pus 3 Pashto
qu que que 44 Cetshwa
(-) raj raj 6 Rajasthani
(-) rom rom 7 Romani
sq sqi/alb sqi 4 Albaneg
sc srd srd 4 Sardeg
sw swa swa 2 Swahili language
(-) syr syr 2 Syrieg
(-) tmh tmh 4 Tamashek
uz uzb uzb 2 Wsbeceg
yi yid yid 2 Iddew-Almaeneg
(-) zap zap 58 Zapotec
za zha zha 16 Zhuang
zh zho/chi zho 13 Tsieineeg

Ystyrir yr iaith Dungan (dng) yn agosach at Fandarin, ond nid yw ar y rhestr hon yn ISO 639-3 oherwydd datblygiadau hanesyddol a diwylliannol gwahanol.[6]

Er bod ISO 639 yn rhestru codau am Hen Tsieineeg (och) a Tsieineeg Canol Diweddar (ltc), nid ydynt o dan Tsieineeg ar restr ISO 639-3 gan fod y naill yn iaith hynafol a'r llall yn iaith hanesyddol.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Scope of denotation for language identifiers". SIL International. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-08. Cyrchwyd 2014-05-05.
  2. Lewis, M. Paul, gol. 2009. Ethnologue. Dallas: SIL International
  3. "Documentation for ISO 639 identifier: ara". SIL International. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-16. Cyrchwyd 2014-05-05.
  4. "Documentation for ISO 639 identifier: arb". SIL International. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-10-13. Cyrchwyd 2014-05-05.
  5. Hysbysiad o Newid ISO 639-2/RA
    Cod ISO
    639-1
    Cod ISO
    639-2
    Enw
    Saesneg
    Enw
    Ffrangeg
    Dyddiad
    ychwanegu
    neu newid
    Categori'r
    newid
    Nodiadau
    [-sh] (dim) Serbo-Croatian serbo-croate 2000-02-18 Dep Tynnwyd y cod hwn yn ôl yn 2000 oherwydd bod codau gwahanol i bob iaith unigol (Serbeg, Croateg ac yn nes ymlaen Bosneg). Fe'i cyhoeddwyd mewn adolygiad o ISO 639-1 ond nid oedd wedi'i gynnwys yn ISO 639-2. Ystyrir yn facroiaith (term cyffredinol am grŵp o ieithoedd unigol â pherthynas agos) yn ISO 639-3. Ailddatganwyd ei fod wedi'i dynnu'n ôl gan Gydbwyllgor Ymgynghorol ISO 639 yn 2005.
    sr srp [scc] Serbian serbe 2008-06-28 CC Cymerodd cod ISO 639-2/T le cod ISO 639-2/B
    hr hrv [scr] Croatian croate 2008-06-28 CC Cymerodd cod ISO 639-2/T le cod ISO 639-2/B
  6. Rimsky-Korsakoff, Svetlana (1967). "Soviet Dungan: The Chinese language of Central Asia. Alphabet, phonology, morphology.". Monumenta Serica 26: 352–421.

Dolenni allanol golygu