Madam Sera
Darlledwraig, sêr-ddewin a chymeriad adnabyddus o ardal Caernarfon oedd Madam Sera neu Margaret Glenys Ellis (21 Ebrill 1942 – 18 Rhagfyr 2009).[1] Daeth i amlygrwydd yn y lle cyntaf pan ddechreuodd ddarllen y sêr ar raglen Hywel Gwynfryn, Helo Bobol, ar Radio Cymru. Yn ddiweddarach bu'n cyflwyno rhaglen Ond o ddifri Madam Sera ar S4C[2]. Cyhoeddwyd Llyfr Sêr Madam Sera gan wasg y Lolfa ym 1984[3].
Madam Sera | |
---|---|
Ganwyd | 21 Ebrill 1942 |
Bu farw | 18 Rhagfyr 2009 |
Hanai o Bontnewydd ger Caernarfon, a bu'n byw yng Nghaerdydd am rai blynyddoedd cyn dychwelyd i'r gogledd. Roedd yn briod â Martin Ellis, a fu'n trefnu Gŵyl Caernarfon am flynyddoedd, a'i henw llawn ffurfiol oedd Margaret Glenys Martin Ellis. Bu'n llyfrgellydd yn Llyfrgell Caernarfon am flynyddoedd.
Roedd yn aelod o Blaid Cymru ac fe safodd fel cynghorydd dros y Blaid yng Nglan-yr-afon pan oedd yn byw yn y brifddinas. Roedd yn un o gefnogwyr ymgyrch papur dyddiol Cymraeg Y Byd[4].
Bu farw yn 2009 yn Ysbyty Gwynedd, wedi gwaeledd byr. Roedd yn 67 oed. Fe'i cofir fel cymeriad lliwgar a phoblogaidd[5][6].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyhoeddiad Marwolaeth. Daily Post (24 Rhagfyr 2009). Adalwyd ar 1 Chwefror 2016.
- ↑ Stori newyddion am ei marwolaeth. Newyddion y BBC.
- ↑ Llun o Lyfr Sêr Madam Sera. Dafydd Tomos (ar wefan Flickr).
- ↑ Rhestr buddsoddwyr y Byd. Gwefan Y Byd.
- ↑ Erthygl goffa. Y Dinesydd.
- ↑ Stori newyddion am ei marwolaeth. Herald Caernarfon.