Antitype chi
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Noctuidae
Genws: Antitype
Rhywogaeth: A. chi
Enw deuenwol
Antitype chi
(Linnaeus, 10fed rhifyn of Systema Naturae, 1758)
Cyfystyron
  • Phalaena chi Linnaeus, 1758
  • Phalaena Noctua chi Linnaeus, 1758
  • Polia olivacea Stephens, 1829
  • Polia chi f. caerulescens Hartig, 1924
  • Polia chi r. marsicana Dannehl, 1929

Gwyfyn sy'n perthyn i deulu'r Noctuidae yn urdd y Lepidoptera yw maen croesog, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy meini croesog; yr enw Saesneg yw Grey Chi, a'r enw gwyddonol yw Antitype chi.[1][2]

Mae i'w ganfod yn y rhan fwyaf o Ewrop ar wahân i: Sbaen a Gwlad Groeg. Mae hefyd i'w gael yng ngogledd a chanol Asia, ond nid yn Japan.

Wedi'i fframio
Siani flewog

Mae'n hedfan rhwng Awst a Medi a chaif ei ddenu gan olau a siwgwr (neithdar). Gwyrddlas ydy lliw'r siani flewog. Mae'n trulio'r gaeaf fel ŵy.

Isrywogaethau golygu

  • Antitype chi chi
  • Antitype chi subcaerulea (Graeser, 1889) (Far East)

Bwyd golygu

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r maen croesog yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.