Maescar

cymuned yn ne Powys

Cymuned ym Mhowys, Cymru, yw Maescar neu Maes-car. Saif yn ne'r sir ym mhen uchaf Cwm Senni, lle mae Afon Senni yn llifo tua'r gogledd i ymuno ag Afon Wysg. Ffurfia'r gymuned ran o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Maescar
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth965, 952 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd9,900.6 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.942634°N 3.530343°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000327 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/au y DUDavid Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol)
Map

Y prif bentrefi yn y gymuned yw Pontsenni, Defynnog a Heol Senni. Gerllaw'r ffordd sy'n arwain tua'r de mae Maen Llia, maen hir 4 m o uchder bron. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 998.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[2]

Cyfeiriadau

golygu