Malcolm Allen (pêl-droediwr)
Cyn chwaraewr pêl-droed a sylwebydd Cymreig yw Malcolm Allen (ganed 21 Mawrth 1967). Chwaraeodd dros Watford, Aston Villa, Norwich City, Millwall, Newcastle United a Stevenage Borough. Cynrychiolodd Gymru 14 gwaith rhwng 1986 a 1993.
Manylion Personol | ||
---|---|---|
Enw llawn | Malcolm Allen | |
Dyddiad geni | 21 Mawrth 1967 | |
Man geni | Deiniolen, Gwynedd, Cymru | |
Safle | Blaenwr | |
Clybiau | ||
Blwyddyn |
Clwb |
Ymdd.* (Goliau) |
1985–1988 1987 1988–1990 1990–1993 1993–1995 |
Watford Aston Villa (ar fenthyg) Norwich City Millwall Newcastle United |
39 (5) 4 (0) 35 (8) 81 (24) 10 (5) |
Tîm Cenedlaethol | ||
1986–1993 | Cymru | 14 (3) |
1Ymddangosiadau a goliau mewn clybiau hŷn |
Bywgraffiad
golyguGaned Allen yn Neiniolen, Gwynedd a mynychodd Ysgol Brynrefail. Dechreuodd ei yrfa pêl-droed gyda Watford, gan arwyddo fel prentis yng Ngorffennaf 1983, cyn troi'n broffesiynol ym Mawrth 1985.[1] Sgoriodd unig gôl Watford yn rownd derfynol Cwpan Ieuenctid Lloegr ym 1985.[1] Chwaraeodd a sgoriodd dros y Hornets yn rownd gyn-derfynol Cwpan Lloegr yn erbyn Tottenham Hotspur ym 1987, ac mewn 19 ymddangosiad yng nghystadleuaeth y gwpan, sgoriodd wyth gôl.[1] Benthycwyd Allen gan Aston Villa ym Medi 1987 gan reolwr newydd Watford, Dave Bassett, ac ymunodd â Norwich am ffi o £175,000 yn Awst 1988.[1] Tra gyda Norwich, sgoriodd pedair gôl a thorri record y clwb, yn eu buddugoliaeth o 8–0 yn erbyn Sutton United ym mhedwaredd rownd Cwpan Lloegr. Dyma oedd un o dymhorau mwyaf llwyddiannus Norwich erioed, gan iddynt ddarfod yn bedwerydd yn y gynghrair a chyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Lloegr.
Ym 1989, bu dadl rhwng Allen a David O'Leary a gychwynnodd ffrae yn stadiwm Highbury Arsenal.[2] Cododd O'Leary Allen i fyny wrth ei war, a'i gario sawl lathen cyn i'r heddlu ymyrryd,[3] derbyniodd Arsenal gosb o £20,000.[4][5]
Ymunodd Allen â Millwall ym Mawrth 1990 am £400,000, gan dreulio tair blynedd yno cyn symud i Newcastle United am £300,000 yn Awst 1993. Ymddeolodd wedi iddo gael anaf, yn 28 oed, yn Rhagfyr 1995.[1]
Cynrychiolodd Gymru yn y tîm iau, y tîm B, ac ar lefel rhyngwladol llawn.[1] Derbyniodd ei gap llawn cyntaf pan oedd yn 18 oed, wedi iddo ond chwarae dim ond ychydig o gemau clwb hŷn,[1] gan ymddangos ar y cae ar 25 Chwefror 1986 pan guront Sawdi Arabia o 2-1 yn Riyadh. Derbyniodd 14 cap hŷn i gyd, gan wneud ei ymddangosiad rhyngwladol olaf ar 17 Tachwedd 1993, yn y gêm siomedig yn erbyn Romania ym Mharc yr Arfau, pan gollodd Cymru o 2-1 gan fethu a chymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 1994.[6]
Yn Awst 2006, roedd Allen yn y llys, wedi iddo gael ei gyhuddo o drais.[7] Yn Ebrill 2008, derbyniodd dedfryd ohiriedig a chael ei wahardd rhag gyrru wedi iddo gyfaddef ei fod wedi gyrru ar ôl yfed deg peint o gwrw.[8]
Erbyn hyn maen Allen yn ymddangos yn gyson fel sylwebydd ar y rhaglen deledu Sgorio, ynghyd â John Hartson a Dai Davies, yn ogystal â sylwebu ar gemau pêl-droed yn fyw ar ran Radio Cymru a Radio Wales.
Cyhoeddwyd ei hunangofiant gan Y Lolfa yn 2009.
Llyfryddiaeth
golygu- Canary Citizens, Mark Davage, John Eastwood, Kevin Platt, Jarrold Publishing, (2001), ISBN 0-7117-2020-7
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 (1996) The Watford Football Club Illustrated Who's Who. Surrey: T.G Jones, tud. 23. ISBN 0-9527458-0-1
- ↑ Happened on this Day - 4 November. BBC (4 Tachwedd 2002).
- ↑ Graham Kelly: Points deduction is best weapon but it must be used with the utmost care. The Independent.
- ↑ We are so sorry. The Sun.
- ↑ Goons' role of shame update. RedCafe.net.
- ↑ Malcolm Allen. Sporting Heroes.
- ↑ Ex-footballer admits kicking girl
- ↑ Ten-pint former footballer banned. BBC (9 Ebrill 2008). Adalwyd ar 4 Awst 2008.