Mamma Mia! The Movie
Mae Mamma Mia! The Movie ("Mamma Mia! Y Ffilm") yn addasiad llwyfan-i-ffilm o'r sioe gerdd yn y West End o'r enw Mamma Mia! (1999). Mae'r sioe yn seiliedig ar ganeuon y grŵp pop hynod lwyddiannus ABBA gyda'r gerddoriaeth ychwanegol wedi'u gyfansoddi gan Benny Andersson a oedd yn aelod o ABBA. Gwnaeth y ffilm yn arbennig o dda yn y sinemau a chafodd y penwythnos fwyaf erioed am ffilm gerddorol yn hanes yr Unol Daleithiau. Fel y sioe gerdd, tarddia deitl y ffilm o gân boblogaidd ABBA o 1975 Mamma Mia. Rhyddhawyd y ffilm gan Universal Studios mewn partneriaeth â Playtone a Littlestar.[1] Cafodd y ffilm ei rhyddhau ar 3 Gorffennaf 2008 yng Ngwlad Groeg, ar 10 Gorffennaf 2008 yn Awstralia, Seland Newydd a'r Deyrnas Unedig, ar 11 Gorffennaf 2008 yn Sweden, ar 16 Gorffennaf 2008 yn y Philippines, ar 18 Gorffennaf 2008 yn yr Unol Daleithiau a Chanada, ar 10 Medi yn Ffrainc, ar 24 Gorffennaf 2008 a 3 Hydref 2008 yn yr Eidal.[2]
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Phyllida Lloyd |
Cynhyrchydd | Judy Craymer Catherine Johnson Uwch Gyfarwyddwyr Benny Andersson Björn Ulvaeus Rita Wilson Tom Hanks Phyllida Lloyd |
Ysgrifennwr | Catherine Johnson |
Serennu | Meryl Streep Amanda Seyfried Pierce Brosnan Colin Firth Stellan Skarsgård Dominic Cooper Julie Walters Christine Baranski |
Cerddoriaeth | Benny Andersson Björn Ulvaeus Stig Anderson |
Sinematograffeg | Haris Zambarloukos |
Golygydd | Lesley Walker |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Universal Studios |
Dyddiad rhyddhau | 10 Gorffennaf, 2008 |
Amser rhedeg | 108 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau Y Deyrnas Unedig Yr Almaen |
Iaith | Saesneg |
Gwefan swyddogol | |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Arweinia Meryl Streep cast y ffilm wrth iddi chwarae rhan mam sengl o'r enw Donna Sheridan. Mae Pierce Brosnan, Colin Firth, a Stellan Skarsgård yn chwarae rhan tri tad posib i ferch Donna, (Amanda Seyfried).
Ar 29 Awst 2008 rhyddhawyd Mamma Mia!: The Sing-Along Edition, gyda'r geiriau i'r holl ganeuon wedi'u uwch-oleuo ar y sgrîn mewn rhai theatrau.[3]
Cast
golygu- Meryl Streep fel Donna Sheridan, Mam Sophie, perchennog y gwesty "Villa Donna."
- Amanda Seyfried fel Sophie Sheridan, Merch Donna a dyweddi Sky.
- Julie Walters fel Rosie, un o ffrindiau gorau Donna, awdures di-briod sy'n hoffi cael hwyl.
- Christine Baranski fel Tanya, un o ffrindiau gorau Donna, gwraig gyfoethog sydd wedi ysgaru deirgwaith.
- Pierce Brosnan fel Sam Carmichael, tad posib Sophie's rhif 1 a phensaer Americanaidd.
- Colin Firth fel Harry Bright, tad posib Sophie's rhif 2 banciwr Prydeinig.
- Stellan Skarsgård fel Bill Anderson, tad posib Sophie's rhif 3, morwr Swedeg ac awdur teithio.
- Dominic Cooper fel Sky, dyweddi Sophie, sy'n cynllunio gwefan ar gyfer y gwesty.
- Philip Michael fel Pepper, "best man" Sky sy'n hoffi Tanya.
- Ashley Lilley fel Ali, ffrind clos i Sophie.
- Rachel McDowall fel Lisa, ffrind clos i Sophie.
- Benny Andersson (cameo) fel chwaraewr piano yn ystod "Dancing Queen"
- Björn Ulvaeus (cameo) fel duw Groegaidd
- Rita Wilson (cameo) fel duwies Roegaidd.
Y caneuon yn y ffilm
golyguCafodd yn caneuon canlynol eu cynnwys yn y ffilm ei hun ond dim ond 17 o'r caneuon hyn oedd ar yr albwm a oedd yn cydfynd â'r ffilm. (Ni chafodd "Chiquitita", "Waterloo" a "I Do, I Do, I Do, I Do, I Do" eu cynnwys):
- "I Have a Dream" - Sophie
- "Honey, Honey" - Sophie, Ali a Lisa
- "Money, Money, Money" - Donna, Tanya, Rosie a'r Corws Groegaidd
- "Mamma Mia" - Donna
- "Chiquitita" - Tanya, Rosie a Donna
- "Dancing Queen" - Donna, Tanya, Rosie a'r Corws Groegaidd
- "Our Last Summer" - Sophie, Sam, Harry, a Bill
- "Lay All Your Love on Me" - Sky a Sophie
- "Super Trouper" - Donna, Tanya, a Rosie
- "Gimme! Gimme! Gimme!" - Cast
- "The Name of the Game" - Sophie a Bill (golygfa a ddileuwyd sydd ar y DVD)
- "Voulez-Vous" - Cast
- "SOS" - Sam a Donna
- "Does Your Mother Know" - Tanya, Pepper, a'r Dynion
- "Slipping Through My Fingers" - Donna a Sophie
- "The Winner Takes It All" - Donna
- "I Do, I Do, I Do, I Do, I Do" - Donna, Sam, a'r Cwmni
- "When All is Said and Done" - Sam a'r Cwmni
- "Take a Chance on Me" - Rosie a Bill
- "Mamma Mia" (Reprise) - Cast
- "I Have a Dream" (Reprise) - Sophie
- "Dancing Queen" - Donna, Tanya and Rosie (credydau diwedd y ffilm)
- "Waterloo" - Cast (credydau diwedd y ffilm)
- "Thank You for the Music" - Sophie (credydau diwedd y ffilm)
Rhyddhawyd yr albwm a oedd yn cyd-fynd â'r ffilm ar 8 Gorffennaf 2008 gan gwmni Decca. Am fod y ffilm wedi'i seilio ar y sioe gerdd, mae'r caneuon yn fersiynnau newydd ac nid yn berfformiadau gan y grŵp ABBA. Mae nifer o'r caneuon wedi cael eu haddasu, gyda rhai o'r geiriau wedi'u newid er mwyn ateb gofynion y plot. Weithiau, mae geiriau'r caneuon yn cael eu dweud yn hytrach na'u canu neu mae iddynt drefniant gyda cherddorfa, gyda'r gitâr neu'r bouzouki Groegaidd yn gyfeiliant iddynt (fel a welir yn y perfformiad olaf o "I Have a Dream").