Mansi
Pobl Wgrig nomadaidd sydd yn frodorol i ranbarth Yugra, rhwng Afon Petsiora a Mynyddoedd yr Wral yng ngorllewin Siberia, yw'r Mansi (neu yn hynafaidd Fogwliaid).[1] Maent yn perthyn yn agos i'r Khanty, a gelwir y ddwy grŵp ethno-ieithyddol hon gyda'i gilydd yn bobloedd Ob-Wgrig.
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Mamiaith | Mansi, rwseg |
Poblogaeth | 12,228 |
Crefydd | Siamanaeth, eglwysi uniongred |
Rhan o | Ugric peoples, Finno-Ugric peoples, Ob-Ugric peoples |
Gwladwriaeth | Rwsia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Credir i'r bobloedd Ob-Wgrig ddisgyn o gysylltiad y boblogaeth gynhenid leol â nomadiaid Wgrig a ymfudodd i'r ardal o'r de rhywbryd rhwng y blynyddoedd 500 a 1000. Dylanwadwyd arnynt yn y cyfnod boreol gan y bobloedd Iranaidd a Thyrcig, ac yn ddiweddarach gan grwpiau cyfagos gorllewin Siberia: y Tatariaid Siberaidd, y Nenets, y Rwsiaid, a'r Komi. Mentrodd y Rwsiaid i Fynyddoedd yr Wral am y tro cyntaf yn yr 11g, masnachwyr o Novgorod yn bennaf. Wedi hynny, codwyd treth lem ar grwyn y Mansi, a cheisiodd nifer ohonynt osgoi cysylltiadau â'r Rwsiaid a symud i mewn i'r coedwigoedd.[2] Dros amser, symudodd gwlad y Mansi o ganolbarth yr Wral i'r gogledd-ddwyrain, i'w hardal bresennol ar lannau Afon Konda. Brwydrodd y Mansi yn erbyn ehangiad Uchel Ddugiaeth Mysgofi, ac ym 1455–67 arweiniodd y Tywysog Asyka, cateyrn y Mansi ger Afon Pelym, ymgyrch yn erbyn lluoedd Mysgofi, Perm Fawr, a Christnogion Vym. Er gwaethaf eu gwrthgyrchoedd brwdfrydig, aflwyddiannus a fu gwrthsafiad y Mansi, a dinistriwyd yr olaf o'u tywysogaethau, Konda, ym 1591. Arwyddwyd cytundebau rhwng y ddwy ochr wrth i'r Mansi ildio, ond cawsant eu hanwybyddu gan y Rwsiaid ymhen fawr o dro. Ymfudodd niferoedd mawr o wladychwyr i diroedd amaethyddol y Mansi, a bu'n rhaid iddynt droi at hela a physgota am eu bwyd.[3]
Pan crewyd Ocrwg Ymreolaethol Khanty-Mansi ym 1930, ar ffurf Ocrwg Cenedlaethol Ostiac-Fogwl yng Ngweriniaeth Sofietaidd Sosialaidd Rwsia, yr Undeb Sofietaidd, roedd y bobloedd Mansi a Khanty (Ostiaciaid) yn cyfri am 19 % o boblogaeth yr ardal. Caethgludwyd nifer fawr o alltudion i Siberia yn y cyfnod Sofietaidd, ac yn sgil darganfyddiad olew yn yr Arctig yn y 1950au cafodd nifer o'r brodorion eu troi allan o'r tir wrth i lafurwyr symud yno i weithio yn y diwydiant olew. Effeithiwyd ar yr amgylchedd gan danau nwy ac arllwysiadau olew, ac erbyn 1989 roedd y Mansi a'r Khanty yn cyfri am 1.4 % o boblogaeth yr ocrwg. Yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd, sefydlwyd y garfan Spasenie Ugry (Iachawdwriaeth Yugra) i ymgyrchu dros hawliau brodorol ac i fynegi pryderon ecolegol.[3]
Ieithoedd Ob-Wgrig yw'r ieithoedd Mansi a Khanty, ac ynghyd ag Hwngareg dyma gangen Wgrig y teulu Ffinno-Wgrig. Rhennir siaradwyr Mansi yn draddodiadol yn bedair grŵp daearyddol—gogledd, de, gorllewin, dwyrain—a bellach mae ieithyddion yn cydnabod rhyw 18 o dafodieithoedd sydd yn cyfateb i'w patrymau trigiannol ar hyd yr afonydd.[2] Yn y 1990au, siaradwyd yr iaith frodorol gan 37 % o'r Mansi, y mwyafrif helaeth ohonynt o'r hen do.[3]
Gorfodwyd nifer o'r Mansi i droi'n Gristnogion yng nghyfnod y tsaraeth, ac erbyn 1750 roedd y mwyafrif ohonynt yn cymryd arnynt ffydd yr Eglwys Uniongred Roegaidd tra'n arfer animistiaeth yn gudd.[3] Un o brif draddodiadau'r Mansi yw "gŵyl yr arth", sef seremoni angladdol a gynhelir dros sawl nos mewn tai helwyr wedi iddynt ladd arth.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, "Vogul".
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) E. G. Fedorova a David C. Koester, "Mansi" yn Encyclopedia of World Cultures. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 29 Ionawr 2021.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 (Saesneg) Rein Taagepera, "Mansi" yn Encyclopedia of Russian History. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 29 Ionawr 2021.