Y fantell goch
Vanessa atalanta | |
---|---|
O'r top | |
O'r ochor | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Nymphalidae |
Genws: | Vanessa |
Rhywogaeth: | V. atalanta |
Enw deuenwol | |
Vanessa atalanta (Linnaeus, 10fed rhifyn o: Systema Naturae, 1758) | |
Isrywogaethau | |
| |
Cyfystyron | |
|
Mae'r Fantell goch (lluosog: mentyll cochion) yn löyn byw cymharol fawr sy'n perthyn i deulu'r Nymphalidae. Yr enw Saesneg arno yw Red Admiral, a'i enw gwyddonol yw Vanessa atalanta. Mae i'w weld yn Ewrop, Asia a Gogledd America. Daw i Gymru yn ystod yr haf o Fôr y Canoldir, fel arfer tua dechrau Gorffennaf.[2]
Lled yr adenydd ar eu heithaf ydy rhwng 45 – 50 mm (dwy fodfedd).[3] Yn ne Ewrop, mae hefyd i'w weld yn hedfan yn ystod y gaeaf. Fe'i disgrifwyd am y tro cyntaf gan y naturiaethwr Carl Linnaeus yn 1758, yn ei 10fed cyfrol o Systema Naturae.[4]
Gwelir yr oedolyn yn aml yn bwydo ar ddail yr eiddew (neu iorwg) neu'n yfed o flodau'r Buddleia, neu ffrwyth goraeddfed, a hynny fel arfer mewn coedwigoedd llaith. Caiff yr wyau gwyrdd eu dodwy ar ddail y danadl poethion (Urtica dioica), un ddeilen i bob ŵy. Bydd y lindys yn deor a bydd yn creu amddiffynfa iddo ei hunan drwy dynnu ymylon y ddeilen at ei gilydd.
Mae'r oedolion yn gallu gaeafgysgu.
Cylchred bywyd
golygu-
Wyau
-
Lindys ifanc
-
Lindys hŷn
-
Chwiler
-
Vanessa atalanta
-
Vanessa atalanta △
Tarddiad yr enw
golyguYstyr 'mantell' ydy 'hugan' neu 'glogyn'. Daw'r enw Lladin Vanessa atalanta o'r Iaith Roeg; roedd Atlanta yn gymeriad mytholegol. Crëwyd y gair Vanessa gan yr awdur Eingl-Wyddelig Jonathan Swift yn 1708.
Cyffredinol
golyguGellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd. Wedi deor o'i ŵy mae'r mantell goch yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Vanessa, funet.fi
- ↑ Opler, Paul A.; Krizek, George O. (1984). Butterflies East of the Great Plains: An Illustrated Natural History. Baltimore: Johns Hopkins University Press. ISBN 0801829380. OCLC 9412517.
- ↑ Shalaway, Scott. Butterflies in the Backyard. ISBN 0-8117-2695-9 2004, Stackpole Books, Mechanicsburg, Pennsylvania. p.38
- ↑ Shalaway, Scott (2004). Butterflies in the Backyard. Mechanicsburg, Pennsylvania: Stackpole Books. t. 38. ISBN 0-8117-2695-9.