Margaret Lloyd George
dyngarwraig o Gymraes
Roedd y Fonesig Margaret Lloyd George (née Owen; 4 Tachwedd 1864 – 20 Ionawr 1941) yn ddyngarwraig a chafodd ei phenodi yn un o'r saith ynadon benywaidd cyntaf ym Mhrydain yn 1919.[1] Roedd hi'n wraig i'r Prif Weinidog David Lloyd George o 1888 tan ei marwolaeth ym 1941.
Margaret Lloyd George | |
---|---|
Ganwyd | 4 Tachwedd 1864 |
Bu farw | 20 Ionawr 1941 Cricieth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Tad | Richard Owen |
Priod | David Lloyd George |
Plant | Richard Lloyd George, 2il Iarll Lloyd-George o Ddwyfor, Olwen Carey Evans, Mair Eluned Lloyd George, Gwilym Lloyd George, Megan Lloyd George |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd ar 4 Tachwedd 1864 i Richard Owen, un o flaenoriaid Capel Mawr, Cricieth, Sir Gaernarfon. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Merched Dr Williams, yn Nolgellau.[2]
Priodas a phlant
golyguPriododd â Lloyd George ar 1 Ionawr 1888. Cawsant 5 o blant:
- Richard, yr ail Iarll Lloyd-George o Ddwyfor (1889–1968); ysgrifennodd llyfr am ei fam, Dame Margaret: The Life Story of His Mother (1947).[2]
- Mair Eluned (1890–1907)
- Olwen Elizabeth (3 Ebrill 1892 – 2 Mawrth 1990)
- Gwilym Lloyd George (4 Rhagfyr 1894 – 14 Chwefror 1967)
- Megan Lloyd George (1902–1966)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "100 years of women magistrates". www.magistrates-association.org.uk. Cyrchwyd 2020-03-10.
- ↑ 2.0 2.1 Lloyd George, Richard (1947). Dame Margaret: The Life Story of His Mother. Llundain: George Allen & Unwin Ltd. t. 68.