Megan Lloyd George
Roedd y Fonesig Megan Arvon Lloyd George (22 Ebrill 1902 - 14 Mai 1966) yn wleidydd Cymreig a gynrychiolodd y Blaid Ryddfrydol a'r Blaid Lafur yn San Steffan.
Megan Lloyd George | |
---|---|
Ganwyd | 22 Ebrill 1902 Cricieth |
Bu farw | 14 Mai 1966 Cymru |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur, Plaid Ryddfrydol |
Tad | David Lloyd George |
Mam | Margaret Lloyd George |
Priod | Philip Noel-Baker |
Llinach | Teulu Lloyd George |
Bywyd Cynnar
golyguGanwyd Megan Arvon George yng Nghricieth, Sir Gaernarfon, yn drydedd ferch a phumed plentyn David Lloyd George a Margaret ei wraig gyntaf.
Cafodd ei haddysg gychwynnol gan diwtoriaid preifat (gan gynnwys Frances Stevenson, a ddaeth, yn ddiweddarach, yn feistres i'w thad, ac ym 1943 ei ail wraig). Bu hefyd yn Garratts Hall, Banstead ac yna mewn ysgol ym Mharis.
Treuliodd lawer o'i hieuenctid yng nghartrefi swyddogol ei thad yn rhif 11 a rhif 10 Stryd Downing. Ym 1919 fe aeth gyda'i thad i Gynhadledd Heddwch Paris, 1919 ac wedyn i gyfres o gynadleddau rhyngwladol eraill wedi'r rhyfel. Roedd hi'n gydymaith i'w thad ar ei daith fuddugoliaethus i Ganada a'r Unol Daleithiau ym 1923.
Ym 1924 – 1925 treuliodd flwyddyn gyfan yn yr India fel gwestai'r Arglwydd Reading, Rhaglaw'r India.
Ar ddyrchafiad ei thad yn Iarll ym 1945 cafodd Ms Lloyd George yr hawl i ddefnyddio'r teitl cwrtais Y Fonesig.
AS Môn
golyguYm 1928, yn dilyn ymgyrch lechwraidd gan ei rhieni, cafodd Megan ei dewis yn ymgeisydd y Blaid Ryddfrydol ar gyfer etholaeth Sir Fôn yn lle'r deiliad Syr Robert Thomas ac ar 30 Mai, 1929, cafodd ei hethol i Dŷ’r Cyffredin, y ferch gyntaf erioed i'w hethol yn AS o Gymru. Yn ystod hydref 1931 roedd yn un o'r grŵp bach o bedwar AS (y cyfan yn aelodau o deulu Lloyd George) a wrthwynebai ffurfio Llywodraeth Genedlaethol o dan y Prif Weinidog Llafur James Ramsay MacDonald.
Cafodd ei hail-ethol i Dŷ’r Cyffredin fel Rhyddfrydwr Annibynnol yn etholiadau cyffredinol 1931 ac 1935.
Ym 1936 bu Megan gyda'i thad ar ei ymweliad ag Adolf Hitler, er hynny roedd yn gwbl wrthwynebus i bolisi Neville Chamberlain o ddyhuddo ac yn un o'r ASau fu'n pwyso am ei ymddiswyddiad ym Mai 1940.
Yn etholiad 1945 cadwodd Megan Lloyd George sedd seneddol Môn o drwch blewyn, yn wyneb "tirlithriad" trwy wledydd Prydain tuag at y Blaid Lafur; yn un o ddim ond deuddeg AS Rhyddfrydol i'w cael eu hethol yn yr etholiad hwnnw. Ond yn ystod y cyfnod hwn gwelai ei hun fel yr unig un a oedd yn parhau i ddal yn dynn at wreiddiau Rhyddfrydol Radical ei thad yn yr hyn o blaid a oedd ar ôl. Roedd hi'n llawer mwy cyffyrddus yng nghwmni aelodau Llafur megis Clement Attlee a Herbert Morrison nag ydoedd at arweinydd ei phlaid a'i chyd AS Rhyddfrydol Gymreig Clement Davies AS Maldwyn ac Arweinydd y Blaid Ryddfrydol.
Mewn ymgais i gadw undod y Blaid Rhyddfrydol ac yn wyneb sïon ei bod am droi'i chot at y Blaid Lafur cynigiodd Clement Davies swydd iddi fel is-arweinydd y Blaid Rhyddfrydol. Camgymeriad mawr ar ei rhan, yn ôl rhai, oedd iddi dderbyn y swydd yn hytrach na throi'i chot. Er iddi gael ei hail-ethol gyda mwyafrif dechau o 1929 pleidlais ym 1950 pe bai hi wedi ymwrthod a'r swydd ac ymuno a'r Blaid Lafur, siawns y byddai wedi gallu sefyll yn ymgeisydd Llafur ym Môn a chadw ei sedd ym 1951. Gan sefyll fel y ddeiliad Ryddfrydol cafodd ei threchu gan yr ymgeisydd Llafur Cledwyn Hughes yn yr etholiad.
Gwrthododd Megan Lloyd George gynnig gan Gymdeithas Ryddfrydol Sir Fôn i gael ei henwebu fel eu darpar ymgeisydd ym 1952, ar gyfer yr etholiad a alwyd, yn y pendraw, ym 1955.
AS Caerfyrddin
golyguSafodd dros y Blaid Lafur yn Etholaeth Caerfyrddin ac ennill y sedd yn is-etholiad seneddol 1957, yn dilyn marwolaeth Rhys Hopkin Morris, a daliodd y sedd tan ei marwolaeth ym 1966.
Darllen Amgen
golygu- Jones, J. Graham, entry in Dictionary of Liberal Biography Brack et al. (eds.) Politico's Publishing, 1998
- Jones, J Graham, 'A breach in the family: the defection from the Liberal Party of Megan and Gwilym Lloyd George' Archifwyd 2006-10-01 yn y Peiriant Wayback
- Jones, Mervyn. A Radical Life: The Biography of Megan Lloyd George, 1902-66. London: Hutchinson, 1991. ISBN 0-09-174829-1
- Price, Emyr Megan Lloyd George; Gwynedd Archives Service, 1983
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Robert Thomas |
Aelod Seneddol dros Ynys Môn 1929 – 1951 |
Olynydd: Cledwyn Hughes |
Rhagflaenydd: Rhys Hopkin Morris |
Aelod Seneddol dros Gaerfyrddin 1957 – 1966 |
Olynydd: Gwynfor Evans |