Gwilym Lloyd George
Gwleidydd Cymreig oedd Gwilym Lloyd George (4 Rhagfyr 1894 – 14 Chwefror 1967). Bu'n Ysgrifennydd Cartref o 1954 hyd 1957.
Gwilym Lloyd George | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
4 Rhagfyr 1894 ![]() Cricieth ![]() |
Bu farw |
14 Chwefror 1967 ![]() |
Dinasyddiaeth |
y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth |
gwleidydd ![]() |
Swydd |
aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Ysgrifennydd Cartref, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ![]() |
Plaid Wleidyddol |
Y Blaid Geidwadol, Plaid Ryddfrydol ![]() |
Tad |
David Lloyd George ![]() |
Mam |
Margaret Lloyd George ![]() |
Priod |
Edna Gwenfrom Jones ![]() |
Plant |
David Lloyd George, 2nd Viscount Tenby, William Lloyd George, 3rd Viscount Tenby ![]() |
Llinach |
Teulu Lloyd George ![]() |
Ganed ef yng Nghricieth, yn fab i David Lloyd George a'i wraig gyntaf Margaret Lloyd George. Daeth ei chwaer, Megan Lloyd George, yn wleidydd amlwg hefyd, ond troes hi at y Blaid Lafur. Addysgwyd ef yng Ngholeg yr Iesu, Caergrawnt, ac yn 1914, comisyniwyd ef yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.
Bu'n Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Sir Benfro o 1922 hyd 1924 ac eto o 1929 hyd 1950, ond erbyn diwedd y 1940au, roedd yn Rhyddfrydwr Annibynnol, mewn cyngheair a'r Blaid Geidwadol. O 1951 hyd 1957 roedd yn Aelod Seneddol Gogledd Newcastle upon Tyne fel Rhyddfrydwr Cenedlaethol. Bu'n Weinidog Amaeth o 1951 hyd 1954, ac yn Ysgrifennydd Cartref a Gweinidog Dros Faterion Cymreig o 1954 hyd ei ymddeoliad yn 1957.