Margaret McCoubrey
Ffeminist o Iwerddon a anwyd yn yr Alban oedd Margaret McCoubrey (ganwyd 1880–1955) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched a swffragét.
Margaret McCoubrey | |
---|---|
Ganwyd | 1880 Elderslie |
Bu farw | 1956 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, gwleidydd lleol |
Plaid Wleidyddol | Y Blaid Lafur Annibynnol |
Fe'i ganed yn Elderslie, ger Glasgow, Renfrewshire yn 1880. Priododd McCoubrey, undebwr llafur o Iwerddon a symudodd y ddau i Belfast. Yno, ymunodd ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol Menywod Prydain (WPSU sef British Women's Social and Political Union), gan deithio i Lundain fel cynrychiolydd menywod Gogledd Iwerddon. Ymunodd â Chymdeithas Etholfraint Merched Iwerddon yn 1910, ac roedd yn ymgyrchydd milwriaethus. Roedd y thema o 'hunan-aberth' yn hollbwysig ymhlith swffragetiaid a mynodd Margaret McCoubrey eu bont yn parhau â'r traddodiad Gwyddelig o brotestio treisgar.[1]
Heddychwraig i'r carn
golyguAr ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yn anghytuno â gorchmynion yr WSPU i roi'r gorau i brotestio, ac yn lle hynny sefydlodd gangen o Gymdeithas Etholfraint Menywod Iwerddon yn Belfast. Ymunodd â'r mudiad heddwch a rhoddodd loches i wrthwynebwyr cydwybodol. Bryd hynny, roedd y mwyafrif o fenywod yn Ulster yn teimlo bod heddychiaeth ac etholfraint yn ddibwys o gymharu â'r peryglon oedd yn bygwth Ewrop yn ystod y rhyfel. O ganlyniad, dim ond ychydig o swffragetiaid a arhosodd yn weithredol yn ystod y Rhyfel. Cynhaliodd McCoubrey ymgyrch heddwch ac etholfraint am fis gyfan yn Belfast ym mis Awst 1917, wedi'i ysbrydoli gan ei chred na fyddai menyw sy'n edrych i lawr ar faes y gad yn gweld Almaenwyr marw neu "Saeson" marw, ond plant i famau.
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o'r Blaid Lafur Annibynnol.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched, Cymdeithas Merched Iwerddon dros yr Hawl i Bleidleisio, Urdd Cydweithredol y Menywod a'r Blaid Lafur am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu