Agor y brif ddewislen

Bardd Sofietaidd oedd Margarita Aliger ("Cymorth – Sain" ynganiad ; 24 Medi 1915 - 1 Awst 1992) a oedd hefyd yn ieithydd, yn gyfieithydd ac yn newyddiadurwr.

Margarita Aliger
Aliger.jpg
Ganwyd 24 Medi 1915 (in Julian calendarEdit this on Wikidata
Odessa Edit this on Wikidata
Bu farw 1 Awst 1992 Edit this on Wikidata (76 oed)
DSK "Michurinets" Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Rwsia Rwsia
Alma mater
  • Sefydliad Llenyddol Maxim Gorky Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Bardd, ieithydd, cyfieithydd, newyddiadurwr, Ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Arddull pennill, barddoniaeth naratif Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Mudiad realaeth sosialaidd Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Wladol Stalin, Medal "Am Fuddugoliaeth yr Almaen yn Rhyfel Gwladgarol 1941–1945, Urdd y Bathodyn Anrhydedd, Urdd y Rhyfel Gwladgarol, Ail Ddosbarth, Urdd Baner Coch y Llafur, Urdd Cyfeillgarwch y Bobl, Medal "Am Amddiffyn Moscfa", Medal Coffau 800fed Pen-blwydd Moscaw, Medal Jiwbili "20 Mlynedd ers Buddugoliaeth Rhyfel Gwladgarol 1941–1945", Medal Jiwbilî "30 Mlynedd o Fuddugoliaeth yn y Rhyfel Mawr Gwladgarol 1941-1945", Medal Jiwbilî "40 Mlynedd o Fuddugoliaeth yn y Rhyfel Mawr Gwladgarol 1941-1945", Gwobr "Cyril a Methodius" Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Odessa, 3ydd dinas fwyaf yr Wcráin heddiw, ond a oedd yn rhan o Ymerodraeth Rwsia yr adeg honno. Bu farw yn "Michurinets", Oblast Moscfa ac fe'i claddwyd ym Mynwent Peredelkino, gyda'i merched. [1][2][3]

Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd.

Teulu a cholegGolygu

Cafodd ei geni i deulu o weithwyr-swyddfa Iddewig; yr enw teuluol go-iawn oedd Zeliger (Rwseg: Зейлигер).[4] Yn ei harddegau gweithiodd mewn ffatri gemegol. O 1934 i 1937 astudiodd yn Sefydliad Llenyddiaeth Maxim Gorky.[5]

Yr awduresGolygu

Prif themâu ei barddoniaeth gynnar oedd arwriaeth y Sofietiaid yn ystod y diwydiannu ("Blwyddyn Geni", 1938; "Y Rheilffordd", 1939; "Cerrig a Glaswellt", 1940) ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd ("Cerddi", 1943). Ei cherdd enwocaf yw "Zoya" (1942), cerdd am Zoya Kosmodemyanskaya, merch ifanc a laddwyd gan y Natsïaid.[5] Roedd y gwaith hwn yn un o'r cerddi mwyaf poblogaidd yn ystod y cyfnod Sofietaidd. Rhwng 1940 a 1950, nodweddwyd barddoniaeth Aliger gan gymysgedd o benillion lled-swyddogol optimistaidd ("Mynyddoedd Leninskie", 1953), a cherddi lle ceisiodd Aliger ddadansoddi'r sefyllfa yn ei gwlad mewn ffordd realistig, cignoeth ("Eich Buddugoliaeth ", 1944 - 1945).

Yn 1956, mewn cyfarfod gyda o Khrushchev (1894 – 1971) a oedd ar y pryd yn Ysgrifennydd Cyntaf Plaid Gomiwnyddol Rwsia, a'r intelligentsia, ceryddodd Khrushchev awduron y wlad am ymyrryd â'r system wleidyddol. Aliger oedd yr unig awdur i siarad yn ei erbyn yn y cyfarfod hwnnw. Ar ôl iddo ymddeol ymddiheurodd iddi am ei ymddygiad. Ysgrifennodd Aliger nifer o draethodau ac erthyglau am lenyddiaeth Rwsia a'i hargraffiadau ar deithio ("Ar farddoniaeth a beirdd", 1980, a "Dychwelyd o Tsile", 1966).

Priodi a marwGolygu

Ei gŵr cyntaf oedd y cyfansoddwr Konstantin Makarov-Rakitin, a laddwyd ar flaen y gad, ger Yartsevo. Yna, yn 1941 bu farw eu mab bychan, a thorrodd ei chalon. Y flwyddyn ganlynol cafodd berthynas gyda'r awdur Alexander Fadeyev. Ganwyd o'r uniad hwn Maria, a briododd â Hans Magnus Enzensberger yn ddiweddarach; bu hi fyw dramor am ugain mlynedd, gan ladd ei hun yn fuan ar ôl dychweliad byr i Rwsia ym 1991. Yr ail a'r gŵr olaf oedd Algor Chernoutsan (1918-1990) a oedd yn aelod o'r 'Pwyllgor Canolog'. Goroesodd ei holl wŷr a'i phlant, gan farw'n fuan ar ôl ei merch Maria Enzensberger. Mae Margarita Aliger wedi'i chladdu ym Mheredelkino wrth ymyl ei merched.

AelodaethGolygu

Bu'n aelod o Undeb Awduron yr USSR am rai blynyddoedd.

AnrhydeddauGolygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Wladol Stalin, Medal Coffau 800fed Pen-blwydd Moscaw, Medal Jiwbili "20 Mlynedd ers Buddugoliaeth Rhyfel Gwladgarol 1941–1945", Medal Jiwbilî "30 Mlynedd o Fuddugoliaeth yn y Rhyfel Mawr Gwladgarol 1941-1945", Medal Jiwbilî "40 Mlynedd o Fuddugoliaeth yn y Rhyfel Mawr Gwladgarol 1941-1945", Gwobr "Cyril a Methodius"


CyfeiriadauGolygu

  1. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, dynodwr VIAF 29673436, https://viaf.org/, adalwyd 4 Tachwedd 2018Wikidata Q54919 Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 27 Ebrill 2014Wikidata Q36578
  2. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 27 Ebrill 2014Wikidata Q36578
  3. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 13 Rhagfyr 2014Wikidata Q36578 Alexander Prokhorov, ed. (1969), Большая советская энциклопедия, Moscfa: Great Russian Entsiklopedia, JSC, OCLC 14476314Wikidata Q17378135
  4. Vyacheslav Ogryzko, "Несчетный счет минувших дней Archifwyd 2011-08-07 yn y Peiriant Wayback.," Literaturnaya Rossiya, Mai 15, 2009.
  5. 5.0 5.1 Brown, Archie (1991). The Soviet Union: A Biographical Dictionary. NY: Macmillan. p. 10. ISBN 0-02-897071-3.