Agor y brif ddewislen

Cantores bop a gwerin yw Mary Hopkin (ganwyd 3 Mai 1950). Mae hi’n cael ei hadnabod yn bennaf o’r sengl rhif un 1968 “Those Were the Days”. Roedd hi’n un o’r cantorwyr cyntaf i ymuno label Y Beatles Apple.

Mary Hopkin
Mary Hopkin ar glawr ei halbwm Spirit
Gwybodaeth gefndirol
Enw genedigol Mary Hopkin
Ganwyd (1950-05-03) 3 Mai 1950 (69 oed)
Man geni Baner Cymru Pontardawe
Cerddoriaeth pop, gwerin
Galwedigaeth(au) Cantores,
Offeryn(au) cerdd Llais, gitâr
Blynyddoedd 1968 - presennol
Label(i) recordio Apple, Mary Hopkin Music
Cysylltiedig Paul McCartney, Tony Visconti, David Bowie, Ralph McTell, Benny Gallagher,
Gwefan [1]

Gyrfa CynnarGolygu

Ganwyd ym Mhontardawe, lle chymherodd hi wersi canu’n wythnosohl a cychwynodd ei gyrfa fel cantores werin gyda grŵp lleol o’r enw the Selby Set and Mary. Gwnaeth ryddhau ei record gyntaf, "Llais Swynol", yn Gymraeg âr label Cambrian, cwmni o Abertawe, cyn ymuno Apple Records, oedd yn cael ei reoli gan y Beatles. Gwelodd y model Twiggy hi’n ennill y sioe dalent Prydeinig ‘’Opportunity Knocks’’ ac argymhellodd hi i Paul McCartney.[1]

Cynhyrchwyd ei sengl cyntaf, “Those Were the Days” gan McCartney, ac cafodd ei ryddhau ym Mhrydain ar Awst 30, 1968. Er gwaethaf cystadleuaeth gan gantores sefydlig Sandie Shaw, a oedd wedi rhyddhau sengl yr un flwyddyn, daeth Hopkin yn hit rhif un ar siart senglau’r DU.[2] Cyrhaeddodd y gan hefyd ar rhif dau ar Billboard Hot 100 yr UDA, lle roedd wedi ei gadw am tair wythnos o’r brig gan “Hey Jude” y Beatles[3], ac am bythefnos, roedd ar rhif un siartiau senglau RPM Canada. Gwerthodd 1,500,000 o gopïauyn yr UDA yn unig ac fe’i ddyfarnwyd y disc aur gan yr RIAA. Roedd gwerthiannau byd-eang dros 8,000,000.[4]

Ar Hydref 2, 1968, ymddangosodd Hopkin yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul, Llundain, lle chanodd ''Morning of My Life", "Turn Turn Turn", ac "Plaisir d'amour".[5] Yn Rhagfyr y flwyddyn honno, adroddwyd cylchgrawn cerddoriaeth, NME, bod Hopkin yn ystyried y cyfle o prif rôl actio ffilm newydd Stanley Baker, The Rape of The Fair Country.[6] Ni ddigwyddodd y prosiect ond mi channodd Hopkin caneuon teitlau dau o ffilmiau eraill Baker, Where's Jack? a Kidnapped.

Lansiwyd albwm cyntaf Hopkin, "Postcard", a oedd eto wedi cael ei chynhyrchu gan McCartney, ar Chwefror 21, 1969. Roedd yn cynnwys tair chân a oedd yn wreiddiol gan Donovan, ac un gân yr un gan George Martin a Harry Nilsson. Cyrhaeddodd rhif 3 ar siartiau albymau'r DU[2] ac yn yr UDA, cyrhaeddodd Postcard ar rhif 28 ar siart albymau Billboard.[3]

Ei sengl nesaf oedd "Goodbye", wedi'i ysgrifennu gan McCartney (yn cael ei gredydu i Lennon-McCartney), a chafodd ei ryddhau ar Mawrth 26, 1969.[7] Cyrhaeddodd rhid 2 ar Siartiau Senglau'r DU,[2] lle roedd yn cael ei gadw o'r brig gan "Get Back" y Beatles, rhif 13 ar Billboard Hot 100,[7] a rhif 15 ar siart RPM Canada.[8] Dywedodd Hopkin ei bod yn dehongli "Goodbye" fel McCartney yn gaddo i stopio "micromanage" ei gyfra, gan ei bod yn anghyfforddus gyda fo'n ei gosod hi fel amddifadedd pop.[9] Dangosodd hi hefyd anfodlonrwydd gyda'i rheolwr ar yr adeg, Terry Doran.

Roedd trydydd seng Hopkin. "Temma Harbour", yn ailgosodiad o gân Philamore Lincoln. Hwn buasai'i sengl cyntaf nad oedd wedi cael ei gynhyrchu gan McCartney,[10] a cafodd ei ryddhau ar Ionawr 16, 1970, lle cyrhaeddodd rhif 6 yn y DU a rhif 42 yn Canada.[8] Yn yr UDA, cyrhaeddod rhif 39 ar y Billboard Hot 100, a rhif 4 ar siart y cylchgrawn Easy Listening[11]. Gyda Donovan a Billy Preston, roedd Hopkin yn un o gantorwyr cytgan a sengl 1970 Radha Krishna Temple, "Govinda", oedd wedi cael ei gynhyrchu gan George Harrison i Recordiau Apple.[12]

Priododd Tony Visconti ym 1971; ysgarodd 1981.

Roedd Hopkin yn aelod y grwp 1980au "Oasis", gyda Julian Lloyd Webber a Peter Skellern.

PlantGolygu

  • Morgan
  • Jessica

DisgograffiaethGolygu

Senglau yn y siartGolygu

Blwyddyn Teitl Safle yn y siart
DU Almaen Swistir U.S. Billboard Hot 100 U.S. Adult Contemporary
1968 "Those Were The Days" 1 1 1 2 1
1969 "Goodbye" 2 15 3 13 6
1970 "Temma Harbour" 6 4
"Knock Knock, Who's There?" 2 12
"Que Sera, Sera (Whatever Will Be, Will Be)" 7
"Think About Your Children" 19
1971 "Let My Name Be Sorrow" 46
1972 "Water, Paper & Clay"
1976 "If You Love Me (I Won't Care)" 32

Gwelir rhestr o'i recordiau yma: http://homepage.ntlworld.com/pat.richmonds/discog.htm

Dolenni allanolGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Rice, Jo (1982). The Guinness Book of 500 Number One Hits. Enfield, Middlesex: Guinness Superlatives Ltd. p. 120. ISBN 0-85112-250-7.
  2. 2.0 2.1 2.2 Roberts, David (2006). British Hit Singles & Albums. Guinness World Records Limited. p. 259. ISBN 1-904994-10-5.
  3. 3.0 3.1 https://www.allmusic.com/artist/mary-hopkin-mn0000316096
  4. Murrells, Joseph (1978). The Book of Golden Discs. Barrie and Jenkins Ltd. p. 241. ISBN 0-214-20512-6.
  5. "Mary Hopkin Timeline".
  6. Tobler, John (1992). NME Rock 'N' Roll Years. Reed International Books Ltd. p. 191.
  7. 7.0 7.1 Womack, Kenneth (2014). The Beatles Encyclopedia: Everything Fab Four. Santa Barbara. p. 336. ISBN 978-0-313-39171-2.
  8. 8.0 8.1 "RPM Top 100 Singles - May 26, 1969" (PDF).
  9. Stuart., Shea, (2007). Fab Four FAQ : everything left to know about the Beatles-- and more!. Rodriguez, Robert, 1961-. New York: Hal Leonard. ISBN 9781423421382. OCLC 128237609.
  10. C., Winn, John (2008–2009). The Beatles' recorded legacy (arg. 1st ed.). New York: Three Rivers Press. ISBN 9780307451576. OCLC 212855798.CS1 maint: Date format (link) CS1 maint: Extra text (link)
  11. Billboard magazine, March 1970
  12. M., Greene, Joshua (2006). Here comes the sun : the spiritual and musical journey of George Harrison. Hoboken, N.J.: John Wiley & Sons. ISBN 047169021X. OCLC 61879673.