Marshall Claxton
Arlunydd o Loegr oedd Marshall Claxton (12 Mai 1811 - 28 Gorffennaf 1881). Darluniodd tirwedd, portreadau a pheintiadau testunol yn bennaf.[1]
Marshall Claxton | |
---|---|
Ganwyd | 12 Mai 1813 Bolton |
Bu farw | 28 Gorffennaf 1881 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | arlunydd, cerflunydd, ffotograffydd |
Adnabyddus am | Lady Godiva |
Arddull | peintio genre, portread |
Plant | Florence Claxton, Adelaide Sophia Claxton |
Teulu
golyguGanwyd Claxton yn Bolton, Swydd Gaerhirfryn, yn fab i weinidog Methodistiaid Wesleaidd, y Parch. Marshall Claxton, a'i wraig Diana.
Ym 1837 priododd Sophia (1812–1890), merch Joshua Hargrave YH o Blackheath, Swydd Caint; bu iddynt ddwy ferch a mab. Bu'r ddwy ferch Florence ac Adelaide yn artistiaid hefyd a chawsant eu harddangos yn yr Academi Frenhinol.
Addysg
golyguAstudiodd Marshall o dan John Jackson, R.A., ac yn ysgol yr Academi Frenhinol lle ymrestrodd ar 26 Ebrill 1831. Cafodd bendith ei dad i astudio o dan Jackson gan fod Jackson hefyd yn aelod brwd o'r Eglwys Fethodistaidd.
Gyrfa
golyguCafodd ei ddarlun cyntaf ei arddangos yn yr Academi Frenhinol yn 1832 sef portread o'i dad. Yn y blynyddoedd dilynol dangoswyd tua 30 o'i luniau yn arddangosfeydd yr Academi. Yn 1834 enillodd y fedal gyntaf yn yr ysgol baentio, a chafodd fedal aur Cymdeithas y Celfyddydau yn 1835 am ei ddarlun o Syr Astley Cooper. O 1837 i 1842 bu'n gweithio yn yr Eidal cyn dychwelyd i Lundain, gan ennill gwobr o £ 100 am ei Alfred the Great in the Camp of the Danes. Roedd y wobr yn wobr gysur am "lun da" am ddarlun a fethodd i ddod i'r brig mewn cystadleuaeth i greu ffresgoau ar gyfer y senedd dai newydd yn San Steffan.
Ym 1850 aeth Claxton i Sydney, Awstralia, gyda chasgliad mawr o luniau, ond ni chafodd fawr o lwyddiant wrth eu gwerthu. Tra yn Sydney paentiodd ddarlun mawr ar destun Beiblaidd, Gadewch i blant bychain ddyfod ataf Fi a gomisiynwyd gan y Farwnes Burdett-Coutts. Disgrifiwyd y llyn yn y cylchgrawn Household Words fel 'y darlun pwysig cyntaf' a baentiwyd yn Awstralia.[2]
Ym mis Medi 1854 fe adawodd Claxton Sydney am Kolkata, lle bu'n gwerthu nifer o'i luniau. Dychwelodd i Loegr yn 1858 trwy'r Aifft.
Mae llun Claxton "Golygfa Gyffredinol o Harbwr a Dinas Sydney" yn y casgliad Brenhinol yn Lloegr, ac mae ganddo ddau lun yn y casgliad Dickinson yn Oriel Gelf New South Wales, Sydney. Mae ei bortreadau o'r Esgob William Broughton a Dean Cowper yng Ngholeg St. Paul, Prifysgol Sydney, ac mae ei bortread o'r Parch Robert Forrest yn cael ei arddangos yn Ysgol y Brenin, Parramatta. Mae ei beintiad o'r Arglwyddes Godiva yn Oriel Gelf Herbert ac mae hefyd wedi arddangos gwaith yn Oriel Gelf Derby ac Amgueddfa Victoria ac Albert.[3] Bu ei dirlun The Anglesey Coast yng nghasgliad yr artist â chysylltiadau a Chonwy, Buckley Ousey, ar un adeg.[4]
Roedd yn adnabyddus hefyd am ei luniau perthnasol i'r achos Wesleaidd, megis ei ddarlun testunol ar John Wesley at Oxford a The Holy Triumph of John Wesley in His Dying[5]. Daeth nifer o'r darluniau Wesleaidd yn boblogaidd ym mysg selogion yr enwad fel printiau.[6]
Marwolaeth
golyguBu farw yn Llundain ar ôl salwch hir ar 28 Gorffennaf 1881.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Tomory, P. (2016, May 26). Claxton, Marshall (1813–1881), painter. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 20 Hydref 2018
- ↑ Australian Dictionary of Biography Claxton, Marshall (1813–1881) by David S. Macmillan adalwyd 20 Hydref 2018
- ↑ Artcyclopedia: Marshall Claxton adalwyd 20 Hydref 2018
- ↑ "THE LATE MR BUCKLEY OUSEY RCA OF CONWAY - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1890-03-22. Cyrchwyd 2018-10-20.
- ↑ Art UK The Holy Triumph of John Wesley in His Dying adalwyd 20 Hydref 2018
- ↑ "NODIADAU CYFUNDEDOL - Y Gwyliedydd". Amos Brothers. 1901-12-25. Cyrchwyd 2018-10-20.