Gwleidydd o'r Alban yw Martin Docherty (ganwyd 21 Ionawr 1971) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Orllewin Swydd Dunbarton; mae'r etholaeth yn swydd Gorllewin Swydd Dunbarton, yr Alban. Mae Martin Docherty yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Martin Docherty AS
Martin Docherty


Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – Mai 2020

Geni (1971-01-21) 21 Ionawr 1971 (53 oed)
Clydebank, Gorllewin Swydd Dunbarton, Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Gorllewin Swydd Dunbarton
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Alma mater Glasgow College of Food Technology
Prifysgol Essex
Ysgol Gelf Glasgow
Galwedigaeth Ymgynghori ar bolisiau elusenau
Gwefan http://www.snp.org/

Fe'i magwyd yn Clydebank a dechreuodd weithiod pan oedd yn 16 oed. Mynychodd sawl coleg gan dderbyn gradd mewn gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Essex ac yna Gradd Meistr mewn Celf yn Glasgow. wedi hynny dychwelodd i Clydebank lle bu'n gweithio fel Gweithiwr Cymdeithasol i'r WDCVS.

Ymunodd â'r SNP yn 1991 ac fe'i etholwyd fel cyn gynghorydd ieuengaf yr Alban - ar Gyngor Sir Clydebank yn 1992, ag yntau'n ddim ond 21 oed.[1]

Etholiad 2015

golygu

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[2][3] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Martin Docherty 30,198 o bleidleisiau, sef 59% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +38.9 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 14,171 pleidlais.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Profile Archifwyd 2015-07-15 yn y Peiriant Wayback, snp.org; accessed 8 May 2015.
  2. Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
  3. Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban