Ysgolhaig Islamaidd o Loegr oedd Martin Lings (Abu Bakr Siraj Ad-Din; 24 Ionawr 190912 Mai 2005) sydd yn nodedig am ei fywgraffiad o Muhammad.

Martin Lings
Martin Lings yn ei wisg Fwslimaidd ym 1948
Ganwyd24 Ionawr 1909 Edit this on Wikidata
Burnage Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mai 2005 Edit this on Wikidata
Westerham Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethllyfrgellydd, academydd, llenor, hanesydd, bardd, athronydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Vytautas Magnus Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadFrithjof Schuon Edit this on Wikidata

Ganed yn Burnage, Swydd Gaerhirfryn, a chafodd ei fagu yn Unol Daleithiau America lle'r oedd ei dad yn gweithio. Dychwelodd i Loegr i fynychu Coleg Clifton, Bryste, lle'r oedd yn brif swyddog y bechgyn.[1] Cafodd ei fagu yn y ffydd Brotestannaidd, ac yn ddiweddarach fe drodd yn anffyddiwr.[2] Astudiodd Saesneg yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen, ac yno bu'n gyfaill i C. S. Lewis. Aeth i Lithwania ym 1935 i ddarlithio ar yr ieithoedd Eingl-Sacsoneg a Saesneg Canol ym Mhrifysgol Kaunas.[1][2]

Teithiodd i'r Aifft ym 1940 i ymweld â chyfaill a oedd yn darlithio ym Mhrifysgol Cairo, ac yn sgil marwolaeth ei gyfaill cafodd Lings ei gyflogi yn ddarlithydd yn y brifysgol. Trodd Lings yn Fwslim, a chafodd ei atynnu gan y traddodiad Swffïaidd a chan syniadau René Guénon am "y Traddodiad tragwyddol". Priododd â Lesly Smalley ym 1944, a buont yn byw mewn pentref ger Pyramidau Giza. Yn sgil chwyldro Gamal Abdel Nasser ym 1952, cafodd gweithwyr Prydeinig y brifysgol eu diswyddo a dychwelodd Lings i Loegr. Astudiodd am radd mewn astudiaethau Arabeg, a derbyniodd ddoethuriaeth o SOAS am astudio'r shîc Swffïaidd Ahmad al-Alawi. Ysgrifennodd y llyfr A Sufi Saint of the Twentieth Century ar sail ei draethawd doethurol.[1]

Ym 1955 penodwyd Lings yn geidwad cynorthwyol dros lyfrau a llawysgrifau Dwyreiniol yn yr Amgueddfa Brydeinig. Dyrchafwyd yn geidwad dros yr eitemau hynny ym 1970, ac ym 1973 cafodd ei drosglwyddo i'r Llyfrgell Brydeinig. Cyhoeddodd y gyfrol The Qur'anic Art of Calligraphy and Illumination (1976) adeg Gŵyl Fyd Islam yn Llundain.[1] Ym 1983 cyhoeddodd ei lyfr enwocaf, Muhammad: His Life Based on the Earliest Sources, bywgraffiad o'r Proffwyd Muhammad ar sail ffynonellau Arabeg o'r 8g a'r 9g. Bu farw yn ei gartref yn Westerham, Caint, yn 96 oed.[2]

Llyfryddiaeth

golygu
  • The Book of Certainty: An Account of Sufic Teaching (Llundain: Rider & Co., 1952).
  • A Moslem Saint of the Twentieth Century: Shaikh Ahmad al-ʻAlawī, His Spiritual Heritage and Legacy (Llundain: Allen & Unwin 1961). Ailargraffwyd dan y teitl A Sufi Saint of the Twentieth Century.
  • Ancient Beliefs and Modern Superstitions (Llundain: Perennial Books, 1964).
  • Shakespeare in the Light of Sacred Art (Llundain: Allen & Unwin, 1966). Ailargraffwyd dan sawl teitl arall.
  • The Elements and Other Poems (Llundain: Perennial Books, 1967).
  • The Heralds and Other Poems (Llundain: Perennial Books, 1970).
  • What is Sufism? (Llundain: Allen & Unwin, 1975).
  • The Qur'anic Art of Calligraphy and Illumination (Llundain: Word of Islam Festival Trust, 1976).
  • Muhammad: His Life Based on the Earliest Sources (Llundain: Allen & Unwin, 1983).
  • The Eleventh Hour: The Spiritual Crisis of the Modern World in the Light of Tradition and Prophecy (Caergrawnt: Quinta Essentia, 1987).
  • Symbol and Archetype: A Study of the Meaning of Existence (Caergrawnt: Quinta Essentia, 1991).
  • Mecca: From Before Genesis Until Now (Caergrawnt: Archetype, 2004).

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Gai Eaton, "Obituary: Martin Lings", The Guardian (27 Mai 2005). Adalwyd ar 4 Mawrth 2021.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Douglas Martin, "Martin Lings, a Sufi Writer on Islamic Ideas, Dies at 96", The New York Times (29 Mai 2005). Adalwyd ar 4 Mawrth 2021.