Cemegydd ffisegol o Loegr oedd Thomas Martin Lowry (26 Hydref 18742 Tachwedd 1936). Ganwyd yn Low Moor, Bradford, Gorllewin Swydd Efrog, Lloegr.

Martin Lowry
Ganwyd26 Hydref 1874 Edit this on Wikidata
Bradford Edit this on Wikidata
Bu farw2 Tachwedd 1936 Edit this on Wikidata
Caergrawnt Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Henry Edward Armstrong Edit this on Wikidata
Galwedigaethcemegydd, ffisegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Bakerian Lecture Edit this on Wikidata

Roedd ganddo ofn pethau mawr. Oherwydd hyn treuliodd ei oes yn archwilio i mewn i bethau bach, meicrosgopig.

Astudiodd cemeg dan Henry Armstrong, cemegydd oedd â diddordeb mewn cemeg organaidd ond a oedd hefyd yn cynnwys astudio ionau (ions) mewn dŵr. Yn 1896 daeth yn gynorthwyydd iddo. Yn 1906 daeth yn ddarlithydd mewn cemeg yng Ngholeg Technegol San Steffan cyn symud i Ysbyty Meddygol Guy's, ac yn bennaeth yr adran gemeg yn 1913 ac yn athro coleg ychydig wedyn.

Cafodd ei ethol yn Gymrawd Y Gymdeithas Frenhinol yn 1914. Yn 1920, ef oedd y cyntaf gael cadair mewn cemeg ffisegol a hynny ym Mhrifysgol Caergrawnt. Astudiodd droadau optegol wedi'u hachosi gan asid ac adweithiau bas yn 1923 a arweiniodd at ei fformiwl enwog o'r diffiniad o asid a oedd wedi'i seilio ar brotonnau yn cael eu rhyddhau gan asid a'u derbyn gan y bas. Yn rhyfedd iawn, daethpwyd i'r un casgliad (ar yr un adeg) gan Johannes Nicolaus Brønsted. Treuliodd gweddill ei oes yno yng Nghaergrawnt.

Gweler hefyd golygu