Bas (cemeg)
Dosbarth o folecylau cemeg yw'r basau. Fe'u diffinnir[1] yn ôl eu dawn wrth doddi mewn dŵr i greu hydoddiant ag iddo grynodiad [OH-] yn fwy na 10−7 M. Gellir cymharu hyn ag asid, sy'n creu hydoddiant ag iddo grynodiad [H+] yn fwy na 10−7 M.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o endidau cemegol gyda chymwysiadau neu swyddogaethau tebyg ![]() |
---|---|
Math | cyfansoddyn cemegol ![]() |
Y gwrthwyneb | asid ![]() |
![]() |

Mewn cemeg, mae bas yn hylif chwerw, llithrig ac sy'n newid lliw dangosydd megis litmws yn las. Mae hefyd yn adweithio gydag asid ac yn creu halennau drwy adwaith cemegol. Mae hydrocsid alcali yn fas, ac felly metel alcalïaidd sodiwm hydrocsid, calsiwm hydrocsid ayb. Mae'r mathau yma'n cynhyrchu ionau hydrocsid mewn hylif ac felly'n cael eu galw'n basau Arrheniws.
Basau cryf golygu
Mae basau cryf yn gyfansoddion cemegol syml a all dynnu proton (H+) o foleciwl asid gwan iawn mewn adwaith asid-bas. Ymhlith y basau cryf cyffredin mae:
Metalau grwp 1
- Lithiwm hydrocsid (LiOH)
- Sodiwm hydrocsid (NaOH)
- Potasiwm hydrocsid (KOH)
- Rubidiwm hydrocsid (RbOH)
- Cesiwm hydrocsid (CsOH)
Metalau grwp 2
- Beryliwm hydrocsid (Be(OH)2)
- Magnesiwm hydrocsid (Mg(OH)2)
- Calsiwm hydrocsid (Ca(OH)2)
- Strontiwm hydrocsid (Sr(OH)2)
- Bariwm hydrocsid (Ba(OH)2)
Basau niwcleotid golygu
Mewn biocemeg a bioleg moleciwlar, cyfeirir at fasau fel rhan nodweddiadol niwcleotidau. Polymerau niwcleotid yw DNA ac RNA. Cynhwysir basau organig, yn cynnwys atomau nitrogen (y pwrinau Adenin a Gwanin, a'r pyrimidinau Thymin, Wracil a Cytosin ynghyd â basau llai cyfarwydd megys y pwrin Inosin), yn y molecylau niwcleotid hyn[2].
Cyfeiriadau golygu
Dolen allanol golygu
- (Saesneg) Science Aid: Acids and Bases Gwybodaeth i'r sector uwchradd ynglŷn â basau.