The Bourne Ultimatum
ffilm acsiwn, llawn cyffro sy'n llawn dirgelwch gan Paul Greengrass a gyhoeddwyd yn 2007
Mae The Bourne Ultimatum yn ffilm sbio o 2007 a gyfarwyddwyd gan Paul Greengrass sydd yn seiliedig i raddau ar nofel Robert Ludlum o'r un enw. Mae'r ffilm yn ddilyniant i The Bourne Supremacy a dyma yw'r drydedd ffilm yn y gyfres Bourne. Mae'r ffilm yn serennu Matt Damon yn ei rôl fel asasin y CIA, Jason Bourne, sy'n dioddef o amnesia. Mae'r ffilm yn adrodd hynt a helynt Jason Bourne wrth iddo geisio dianc wrth yr awdurdodau yn Moscow, Rwsia trwy deithio i Baris, Llundain, Tangier a Dinas Efrog Newydd er mwyn iddo ddysgu am ei orffennol. Tra ei fod yn gwneud hyn, mae'r CIA yn danfon llofruddwyr ar ei ôl.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Paul Greengrass |
Cynhyrchydd | Patrick Crowley Frank Marshall |
Ysgrifennwr | Sgript: Tony Gilroy Scott Z. Burns George Nolfi Tom Stoppard Stori: Tony Gilroy Nofel: Robert Ludlum |
Serennu | Matt Damon Julia Stiles David Strathairn Scott Glenn Paddy Considine Edgar Ramirez Joan Allen Albert Finney |
Cerddoriaeth | John Powell |
Sinematograffeg | Oliver Wood |
Golygydd | Christopher Rouse |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Universal Pictures |
Dyddiad rhyddhau | UDA: 3 Awst, 2007 DU: 16 Awst, 2007 |
Amser rhedeg | 111 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau Y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg Ffrangeg Rwsieg Arabeg Sbaeneg |
Gwefan swyddogol | |
(Saesneg) Proffil IMDb | |