Mauricio Soler
Seiclwr ffordd proffesiynol o Golombia yw Juan Mauricio Soler Hernández (ganwyd 14 Ionawr 1983 yn Ramiriquí, Boyacá) ar gyfer tîm Barloworld. Cystadlodd yn y Tour de France am y tro cyntaf yn 2007, ar ôl dianc mewn brêc ar y Col du Galibier. Enillodd gystadleuaeth Brenin y Mynyddoedd y flwyddyn honno. Datganodd Soler bod ennill y gystadleuaeth honno yn "fuddugoliaeth o'r nefoedd. Dyma fuddugoliaeth fwyaf fy mywyd, y tro cyntaf i mi gymryd rhan yn y Tour de France. Feddyliais i erioed y byddai'n dod mor gyflym".[1]
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Juan Mauricio Soler Hernández |
Dyddiad geni | 14 Ionawr 1983 |
Taldra | 1.86 m |
Pwysau | ? kg |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Ffordd |
Rôl | Reidiwr |
Math seiclwr | Arbenigwr dringo |
Tîm(au) Proffesiynol | |
2006 2007– |
Acqua & Sapone Barloworld |
Prif gampau | |
Cam 9, Tour de France, 2007 Brenin y Mynyddoedd, Tour de France, 2007 Circuit de Lorraine, 2006 | |
Golygwyd ddiwethaf ar 19 Medi, 2007 |
Dechreuodd Soler rasio yn 17 oed; mae wedi dweud mai ras seiclo a gynhaliwyd yn ei bentref y flwyddyn honno a achosodd iddo benderfynu dod yn seiclwr proffesiynol. Wedi troi'n broffesiynol, treuliodd Soler flwyddyn yn rasio yn ei wlad ei hun, Colombia, cyn ymuno â thîm Acqua & Sapone o dan arweiniad Claudio Corti, a ddaeth ag ef wedyn i'w dîm presennol, Barloworld.[2]
Canlyniadau
golygu- 2006
- 1af, Circuit de Lorraine
- 1af, Cam 2, Circuit de Lorraine
- 2007
- 1af, Cam 9, Tour de France
- 1af, Cam 16 Combativity award, Tour de France
- 1af, Brenin y Mynyddoedd, Tour de France
- 1af, Cam 2, Vuelta a Burgos
- 1af, Vuelta a Burgos
Cyfeiriadau
golyguDolenni Allanol
golygu- (Saesneg) Proffil ar wefan swyddogol Barloworld Archifwyd 2007-05-19 yn y Peiriant Wayback