Col du Galibier
Bwlch yn ne Ffrainc, yn ardal Dauphiné Alps ger Grenoble yw'r Col du Galibier (uchder 2645 m). Hon yw'r nawfed ffordd uchaf yn yr Alpau sydd â wyneb, a'r chweched bwlch uchaf. Mae'n aml yn bwynt uchaf rhifynau o'r Tour de France.
Math | bwlch |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Route des Grandes Alpes |
Sir | Savoie, Hautes-Alpes |
Gwlad | Ffrainc |
Uwch y môr | 2,642 metr |
Cyfesurynnau | 45.064°N 6.408°E |
Cadwyn fynydd | Alpau, Arves massif |
Mae'r bwlch yn cysylltu Saint-Michel-de-Maurienne â Briançon ynghyd â'r col du Télégraphe a'r Col du Lautaret, ond mae ar gau yn y gaeaf. Lleolir rhwng massif d'Arvan-Villards a massif des Cerces, gan gymryd ei enw o'r gadwyn eilradd o fynyddoedd o'r enw Galibier.
Cyn 1976, y twnnel oedd yr unig modd o groesi'r mynydd, lleolwyd copa'r bwlch ar uchder o 2556 m. Caewyd y twnnel i gael ei adnewyddu yn 1976 a ni agorwyd hyd 2002. Adeiladwyd ffordd newydd dros y mynydd yn agosach iw chopa ar uchder o 2645 m. Ail-agorwyd y twnnel gyda un lôn wedi ei reoli gan oleuadau traffig.
Yr esgyniad
golyguO'r gogledd, gan gychwyn yn Saint-Michel-de-Maurienne (a gan gynnwys y Col du Télégraphe), mae'r esgyniad yn 34.8 km o hyd, gan godi 2120 m mewn uchder (gyda llethr ar gyfartaledd o 6.1%). Mae'r esgyniad i'r copa ei hun yn cychwyn yn Valloire ac yn 18.1 km o hyd gyda llethr ar gyfartaledd o 6.9%, mae'n codi 1245 medr o'r pwynt yma. Mae'r darn mwyaf serth ar y copa yn 10.1%.
O'r de, mae'r esgyniad yn cychwyn ar Col du Lautaret (uchder 2058 m) ac yn 8.5 km o hyd gyda llethr ar gyfartaledd o 6.9%, mae'n codi 585 medr o'r pwynt yma. Mae'r darn mwyaf serth ar y copa yn 12.1%.
Tour de France
golyguDefnyddiwyd y Col du Galibier yn y Tour de France am y tro cyntaf ym 1911; y reidiwr cyntaf dro sy copa oedd Emile Georget, a oedd, ynghyd â Paul Duboc a Gustave Garrigou, yr unig reidwyr i beidio a cerdded i fyny'r mynydd.[1]
Teithiodd y Tour de France trwy'r twnnel am y tro cyntaf ers iddo ail-agor yn 2011, ar gymal 19 o Modane Valfréjus i L'Alpe d'Huez.
Lleolir cofeb i Henri Desgrange ger mynedfa deheuol i'r twnnel, sef sefydlydd a chyfarwyddwr cyntaf y Tour de France. Cysegrwyd y gofeb pan basiodd y Tour ar 19 Gorffennaf 1949. Pryd bynnag fydd y Tour yn dringo'r Col du Galibier, gosodir torch ar y gofeb. Gwobrwyir y "Souvenir Henri Desgrange" i'r reidiwr cyntaf i groesi copa'r mynydd uchaf ym mhob rhifyn o'r Tour. Yn 2006, enillwyd y wobr o 5000 ewro ar y Col du Galibier gan Michael Rasmussen.
Mae'r Tour de France wedi croesi'r Col de Galibier 31 gwaith ers 1947. Bwriadwyd ei ddefnyddio hefyd ym 1996, ond gadawyd hi allan o'r ras ar y funud olaf oherwydd tywydd drwg. Oherywdd eira ar y Col de l'Iseran a'r Col du Galibier, lleihawyd y cymal 190 km o Val-d'Isère i Sestriere yn yr Eidal i 46 km o Le-Monetier-les-Bains. Enillwyd y cymal gan Bjarne Riis, gan gipio'r crys melyn yn y broses. Deliodd y crys hyd y diwedd ym Mharis.
Croesodd Tour de France 2008 y Col du Galibier ar 23 Gorffennaf yn ystod cymal 17, 210 km, o Embrun i Alpe d'Huez.
Dringodd Tour de France 2011 y Col du Galibier ddwywaith, a gorffennodd cymal ar ei chopa am y tro cyntaf. Cipwyd y ffuddugoliaeth gan Andy Schleck. Dyma oedd y diwedd cymal uchaf erioed yn y Tour de France.[2]
Ymddangosiadau yn y Tour de France (ers 1947)
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Les Woodland (2003). The Yellow Jersey companion to the Tour de France. Random House, tud. 151. ISBN 0-2240631-8-9
- ↑ Tour de France riders to climb Col du Galibier twice as organisers unveil race route. dailymail.co.uk (2010-10-20). Adalwyd ar 2010-12-28.
Dolenni allanol
golygu- A Cycling History of Galibier
- Profile from Valloire on climbbybike.com Archifwyd 2011-07-22 yn y Peiriant Wayback
- Profile from Col du Lautaret on climbbybike.com Archifwyd 2011-10-15 yn y Peiriant Wayback
- L'ascension à vélo du col du Galibier
- CYCLEFILM's Video Reconnaissance of Galibier Archifwyd 2008-07-23 yn y Peiriant Wayback
- Grenoble Cycling Col du Galibier information page including profiles and images Archifwyd 2011-07-21 yn y Peiriant Wayback
- Video Cycling with snow